Myfyrwyr Bangor yn ennill gwobrau cenedlaethol!
Enillodd un o gymdeithasau Undeb Myfyrwyr Bangor ac un o'i Swyddogion Sabothol wobrau'n ddiweddar yn Noson Wobrwyo'r Gymdeithas Nawdd Nos.
Fe gododd y digwyddiad hwnnw, a ddenodd dros 400 o ddawnswyr mewn masgiau i Neuadd PJ ym mis Rhagfyr, dros £1,000 at barhau â’r gwaith o gynnig gwasanaeth gwrando a gwybodaeth rhagorol i holl fyfyrwyr Prifysgol Bangor.
Dywedodd Shôn Prebble – IL Addysg a Lles:
"Roedd yn wych gweld ein gwirfoddolwyr Nawdd Nos yn cael cydnabyddiaeth am yr holl ymdrech a gwaith caled a aeth i'r ddawns. Mae gweithwyr Nawdd Nos i gyd yn ddienw, felly mae'n braf eu gweld yn cael eu cydnabod am yr oriau dirifedi o gefnogaeth maent yn eu rhoi i fyfyrwyr eraill yma yn y Brifysgol. Roedd y gystadleuaeth yn galed, ond roedd cyrhaeddiad y digwyddiad hwn yn nhermau cyhoeddusrwydd a chodi arian yn llwyddiant eithriadol.
Yn ychwanegol i wobr Nawdd Nos, dyfarnwyd Shôn â gwobr "Cyrhaeddiad Oes" gan y Gymdeithas. Dechreuodd Shôn ei waith gyda Nawdd Nos fel myfyriwr blwyddyn gyntaf yn 2008 ac ers 2009 ef oedd y gwirfoddolwr oedd yn gyfrifol am y project achredu Canllawiau Arfer Da, yn asesu ac achredu gwasanaethau Nawdd Nos ledled y DU ac Iwerddon.
"Rwyf wedi cael mwynhad mawr o'm cyfnod gyda Nawdd Nos Bangor a'r Gymdeithas Nawdd Nos" dywedodd. "Mae'r gwaith mae Nawdd Nos yn ei wneud, yma ym Mangor a ledled y DU ac Iwerddon yn aml yn cael ei ddiystyru a'i danbrisio. Mae'r Canllawiau Arfer Da yn dwyn sylw at broffesiynoldeb anhygoel y myfyrwyr sy'n rhedeg Nawdd Nos. Nawdd Nos Bangor oedd y cyntaf yn y wlad i ennill achrediad yn ôl yn 2010, ac ers hynny, mae'r project wedi mynd o nerth i nerth. Rwyf yn mynd i fethu gweithio gyda nhw, ond rwy'n dymuno'r gorau i'r dyfodol i Nawdd Nos Bangor, Cymdeithas Nawdd Nos a'r holl wasanaethau Nawdd Nos eraill, yma ac yn Ewrop."
Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2013