Myfyrwyr Bangor yn hogi eu harfau ar gyfer rownd bellach o University Challenge
Bydd Prifysgol Bangor yn ymddangos yn ailrownd y sioe gwis fwyaf heriol sydd ar y teledu, University Challenge. Mae’r gyfres yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 eleni a bydd Bangor yn ymddangos ar BBC2 Cymru am 8.00pm nos Lun, 28 Ionawr 2013.
Dewiswyd tîm Prifysgol Bangor o blith dros 100 o fyfyrwyr a wnaeth gais i gymryd rhan, ac yn y rownd agoriadol fe wnaethant drechu Prifysgol St Andrews o 125 – 105. Tîm Bangor yw: Nina Grant (Capten), Simon Tomlinson, Mark Stevens, Adam Pearce ac aelod wrth gefn y tîm, Catriona Coutts.
Meddai Nina, y Capten:
“Wrth gwrs fedra i ddim dweud wrthych sut yr aeth pethau! Ond, mi fedra i ddweud wrthych am gadw llygad am Rhodri, ein masgot draig goch lwcus! Rydym yn gobeithio ein bod wedi dod â bri i Fangor ac i Gymru.”
Undeb y Myfyrwyr wnaeth drefnu i dîm o Brifysgol Bangor gymryd rhan yn y cwis. Meddai Llywydd yr Undeb, Antony Butcher:
“Dwi’n falch iawn fod ein tîm wedi gwneud mor dda yn y rhaglen ddiwethaf ac rwy’n gobeithio y byddant yn llwyddiannus eto’r tro yma. Mae’n wych gweld ein myfyrwyr yn dod â chlod i Fangor fel hyn.”
Daw capten y tîm, Nina Grant, o Enfield yn Llundain ac mae’n 26 oed. Astudiodd am ei lefel A yn Barnet College a Westminster-Kingsway, a bu’n ddisgybl yn y Palmers Green High School for Girls.
Meddai Nina: “Roeddwn eisiau ymuno â’r tîm oherwydd rydw i wedi bod yn gwylio University Challenge ers blynyddoedd ac yn mwynhau cwisiau o’r fath. Roedd cymryd rhan yn brofiad gwych. Roedd yr awyrgylch yno’n gyfeillgar a hwyliog gan mwyaf, sydd wedi arwain at gyfeillgarwch agos ag aelodau o’r timau eraill.”
Mae Adam Pearce, siaradwr Cymraeg o’r Barri a chyn ddisgybl yn Ysgol Gymraeg Glantaf, yn astudio am PhD mewn Astudiaethau Cyfieithu.
“Roeddwn i eisiau bod yn rhan o’r tîm gan fy mod i’n hoffi’r sioe ac yn mwynhau cwisiau. Nid yw prifysgolion Cymreig wedi cael eu cynrychioli’n dda o gwbl yn ddiweddar ac roeddwn eisiau unioni hynny os oedd yn bosibl. Roedd cymryd rhan yn hwyl iawn, er yn dipyn o straen efallai. Ond os ydych chi’n gallu gweithio dan bwysau felly mae’n rhaid i chi roi cynnig iawn arni!
Mae’r myfyriwr hŷn, Simon Tomlinson o Fanceinion, yn astudio am PhD mewn Niwroseicoleg. Cyn astudio yn yr Ysgol Seicoleg bu’n astudio yn y Birkbeck University of London ac ym Mhrifysgolion Manceinion a Leeds.
Meddai Simon, sy’n 41 oed: “University Challenge ydi’r cwis gorau ar y teledu ac roeddwn eisiau cael cyfle i gymryd rhan ynddo ers blynyddoedd. Roeddwn ychydig yn betrus gan feddwl mai cwis i israddedigion ifanc yn unig ydy o, ond dwi’n falch o gael cyfle i gynrychioli myfyrwyr ‘hŷn’.
Ychwanegodd: “Mae Jeremy Paxman yn rhyfeddol o gyfeillgar. Mae gan Roger Tilling lais arbennig iawn. Roedd y timau y gwnaethom gyfarfod â nhw wrth ffilmio yn wirioneddol ddymunol. Does gennym ni ddim syniad sut y byddwn yn dod drosodd ar y teledu ond rydym yn gobeithio y byddwn yn edrych yn iawn!”
Mae Mark Stevens yn astudio am radd mewn Gwyddor yr Amgylchedd.
Mae Catriona Coutts, o Gaerwen, yn awr yn ei hail flwyddyn yn astudio Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol. Mae wedi byw ar Ynys Môn ers roedd yn 2 oed ac aeth i Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy.
Meddai, “Roeddwn eisiau ymuno â’r tîm oherwydd dwi wedi mwynhau gwylio University Challenge ers blynyddoedd ac roeddwn yn meddwl y byddai hwn yn gyfle gwych i gymryd rhan. A dweud y gwir wnes i erioed ddisgwyl y byddwn yn cael fy newis.”
“Hyd yma dwi ddim wedi cael cyfle i gymryd rhan gan nad oes neb wedi bod yn sâl, ond mae ymweld â’r stiwdios a gweld sut mae pethau’n gweithio wedi bod yn brofiad gwerthfawr. Mae pawb sy’n gweithio ar y sioe’n gyfeillgar iawn a dwi wedi cael gweld beth sy’n mynd ymlaen heb y pwysau o orfod cymryd rhan! Roedd y timau eraill hefyd yn gyfeillgar iawn ac roedd yna lawer mwy o siarad a chyfeillgarwch rhwng timau nag roeddwn wedi’i ddisgwyl. Roedd gwylio Bangor yn chwarae yn straen ofnadwy ar y nerfau ond yn gyffrous iawn, ac roeddwn wrth fy modd pan sylweddolais fod yr ornest yn erbyn St Andrews drosodd a bod Bangor yn fuddugol. Dwi’n falch iawn o’r tîm oherwydd roedd y stiwdio’n wirioneddol fygythiol ac fe wnaethant yn dda i berfformio dan y math yna o bwysau.”
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2013