Myfyrwyr Bangor yn llwyddiannus yn Eisteddfod yr Urdd
Mae dwy o Brifysgol Bangor wedi ennill gwobrau o bwys yn Eisteddfod yr Urdd hyd yn hyn.
Mared Emlyn sydd ar hyn o bryd yn dilyn cwrs doethuriaeth mewn telyn a chyfansoddi yn Ysgol Gerdd y Brifysgol yw enillydd y Fedal Gyfansoddi ac Elin Gwyn o Fethesda sydd wedi ennill y Fedal Ddrama.
Daw Mared, sydd yn arbenigwraig ar y delyn, o Langernyw yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae’r teulu yn byw yn Eglwys Bach yn nyffryn Conwy. Cafodd ei haddysg yn ysgolion Bro Cernyw a Dyffryn Conwy, cyn mynd i astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor. Graddiodd yn 2009 gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf. Derbyniodd Ysgoloriaeth KESS drwy gydweithrediad â Chwmni Cyhoeddi Gwynn i ddilyn cwrs doethuriaeth mewn perfformio telyn a chyfansoddi ym Mangor.
Mae Elin Gwyn hefyd yn astudio doethuriaeth- yn Ysgol y Gymraeg y Brifysgol Mae hithau hefyd yn astudio doethuriaeth gydag Ysgoloriaeth KESS. Mae Elin yn astudio cyfraniad diwylliannol y diwydiant llechi yn y cyfnod ôl-ddiwydiannol, ac fel rhan o’r cwrs mae hi’n gweithio yn Yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis.
Dyma oedd gan Beirniaid cystadleuaeth Tlws y Cyfansoddwr, Einon Dafydd ac Eric Jones, i ddweud am waith Mared i’r delyn: “Cyfansoddiad gorffenedig… sy’n arddangos cymhelliad, crefft a chyflwyniad canmoladwy. Mae’r cyfanwaith, sef cyfres o ddawnsfeydd – Perlau yn y Glaw – wedi ei saernïo’n ofalus a chrefftus… Credwn y gallai’r darnau hyn fynd i’r wasg yn eu cyflwr presennol ac y bydden nhw’n gyfraniad gwerthfawr i repertoire y delyn.”
“Ro’n ni eisiau creu darnau byr bywiog,” meddai Mared Emlyn cyn egluro bod pum darn i gyd.
“Yng Nghymru, mae’r delyn yn boblogaidd a dw i’n gwybod bod angen darnau cyfoes ar gyfer y delyn er mwyn adeiladu repertoire.
“Dw i’n licio darnau rhythmig hefo ychydig o ‘off beat’ ynddyn nhw. Dw i’n hoffi gwrando ar Prokofiev ac yn hoffi gwrando fwyaf ar hyn o bryd ar gerddoriaeth ffilm. Cerddoriaeth pobl fel John Williams neu rywun gydag alawon gwych.
Mae Elin Gwyn eisoes wedi ennill ei phlwyf wrth ysgrifennu mewn eisteddfodau lleol, ac yn gyn-enillydd ar Dlws Llên yr Ifanc a’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen.
“Dwi wastad wedi bod wrth fy modd yn gwylio a darllen dramâu,” meddai Elin Gwyn, sydd â’i bryd ar fynd ymlaen i sgriptio mwy yn y dyfodol.
“Mae ennill Y Fedal Ddrama yn sicr o roi hwb i mi barhau i ysgrifennu.”
Y beirniaid oedd Manon Eames a Tim Baker.
Mae Ysgoloriaethau Sgiliau ar gyfer yr Economi Wybodaeth (KESS) yn rhaglen Gydgyfeirio Ewropeaidd o bwys dan arweiniad Prifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. Gan gael budd o Gronfeydd Cymdeithasol Ewropeaidd (ESF), mae KESS yn cefnogi projectau ymchwil cydweithredol (Meistri Ymchwil a PhD), gyda phartneriaid allanol, wedi’u lleoli yn Ardal Gydgyfeirio Cymru (Gorllewin Cymru a’r Cymoedd). Mae’n darparu dros 400 o leoedd PhD a Meistr ac yn cydweithio efo’r un nifer o gyrff a chwmnïau gan alluogi iddynt ymestyn eu busnesau.
Ar yr un pryd, mae’r myfyrwyr yn ymestyn eu sgiliau ymchwil ac yn ennill cymhwyster Ôl-radd mewn Datblygu Sgiliau yn ogystal â doethuriaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mehefin 2011