Myfyrwyr Bangor yn llwyddo yn etholiadau UCM Cymru
Mae dwy fyfyrwraig o Brifysgol Bangor wedi eu hethol yn Llywydd a Dirprwy Lywydd fel ei gilydd yng nghynhadledd flynyddol Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru (UCM Cymru) a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Cafodd Fflur Elin, Llywydd presennol Undeb Myfyrwyr Bangor, ei hethol yn Llywydd ar gyfer y flwyddyn ddilynol ac etholwyd Carmen Smith yn Ddirprwy Lywydd.
Mae UCM Cymru yn cynrychioli dros chwarter miliwn o fyfyrwyr a dyma’r tro cyntaf i swyddogaethau Llywydd a Dirprwy Lywydd gael eu cyflawni gan gynrychiolwyr o Brifysgol Bangor. Yn ogystal â hyn, mae Fflur a Carmwen ill dwy yn siaradwyr Cymraeg, gan gyfoethogi’r llwyddiant hanesyddol hwn ymhellach i Brifysgol Bangor ac i Undeb y Myfyrwyr.
Bydd Fflur, o Donyrefail, yn talu sylw penodol i’r cwricwlwm presennol yn ystod ei blwyddyn fel Llywydd ac yn gobeithio ei wneud yn un mwy cynhwysfawr i fyfyrwyr o gefndiroedd ethnig a’r rhai hynny sydd ag anableddau. Gan drafod ei blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod, meddai:
“Dwi wir yn edrych ymlaen at fod yn Llywydd UCM Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rhai o fy mlaenoriaethau yw gwneud addysg yn gynhwysol - hynny yw, datblygu cwricwlwm sydd yn gynhwysol o ran cynnwys, y dysgu a’r asesu. Rydw i hefyd eisiau gwthio am addysg rhyw a pherthnasoedd sydd yn gynhwysol ymhob lefel o addysg; addysg rhyw a pherthnasoedd sy'n trafod pobl LHDT+, 'cydsyniad' a pherthnasoedd iach.”
Roedd Carmen, sy’n wreiddiol o Salisbury ond bellach yn byw ar Ynys Môn, yn perthyn i Senedd Gyffredinol Undeb y Myfyrwyr yma ym Mangor a chyn hynny bu’n Llywydd Undeb Myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai. Cafodd ei hethol ar sail ei hymrwymiadau i frwydro yn erbyn toriadau pellach i faes addysg bellach ac uwch, i wella profiad myfyrwyr sy’n rhieni a gofalwyr ac i ehangu’r ddarpariaeth rhan-amser yng Nghymru. Meddai Carmen:
“Dwi wedi fy nghyffroi’n llwyr yn dilyn cael fy ethol yn Ddirprwy Lywydd. Dwi wedi bod yn rhan o fudiad y myfyrwyr yng Nghymru ers bron i ddwy flynedd ac yn falch iawn o’r hyn y mae’r mudiad wedi ei gyflawni ers hynny. Fel mudiad cyfunol, mae mudiad y myfyrwyr yn un grymus ac mae’n anrhydedd cael bod yn rhan ohono yn ystod y flwyddyn nesaf yma.”
Gan adlewyrchu ar lwyddiant Fflur a Carmen a’i arwyddocad i Undeb Myfyrwyr Bangor ac i UCM Cymru, meddai Dylan Williams, Cyfarwyddwr Undeb Myfyrwyr Bangor:
“Llongyfarchiadau mawr i Fflur ac i Carmen ar eu llwyddiant. Mae’r ddwy wedi gweithio’n galed iawn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ar ddatblygu llais y myfyriwr a sicrhau fod myfyrwyr Bangor yn cael y profiad gorau posib yma. Cafodd y tîm sabothol presennol, wedi ei arwain gan Fflur, eu coroni’n ‘Dîm Sabothol y Flwyddyn’ yn y gynhadledd flynyddol yng Ngaerdydd gan ddangos yn glir effaith gwirioneddol eu gwaith yn ystod eu cyfnod wrth y llyw. Mae Fflur a Carmen ill dwy ag angerdd neilltuol ac yn llysgenhadon ardderchog ar ran Bangor. Rwy’n ffyddiog y bydd y ddwy yn ffynnu o fewn eu swyddogaethau ag UCM Cymru ac yn cynrychioli buddiannau holl fyfyrwyr Cymru ag angerdd a pharch.”
Bydd Fflur a Carmen yn ymgymryd â’u dyletswyddau newydd ag UCM Cymru ym mis Mehefin.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2016