Myfyrwyr Bangor yn mynd i’r afael â phroblemau gwastraff
Am y drydedd flwyddyn yn olynol, mae Prifysgol Bangor a Cyngor Gwynedd wedi cynnal ymgyrch ddiwedd tymor i leihau problemau gwastraff yn y ddinas.
Cymdeithas Farchnata’r Brifysgol a ddatblygodd ac a arweiniodd yr ymgyrch ‘Môr-ladron yn dweud AAAR!’ (Arbed, Ailgylchu Ailddefnyddio Rwan), lle mae partneriaid yn gweithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r broblem flynyddol o wastraff a sbwriel ar ddiwedd tymor ledaenu i’r stryd a mannau cyhoeddus eraill. Fe wnaeth yr ymgyrch dan arweiniad y myfyrwyr ddefnyddio thema ysgafn môr-ladron i godi ymwybyddiaeth o’r angen i gael gwared ar sbwriel yn gyfrifol ac ailgylchu.
Ynghyd ag ymgyrch farchnata’r myfyrwyr, roedd Timau Casglu Gwastraff Cyngor Gwynedd wrth law i symud gwastraff ychwanegol o fannau sy’n cael eu meddiannu’n bennaf gan fyfyrwyr.
Meddai Rich Gorman, o Undeb Myfyrwyr Bangor:
“Mae ymgyrch y Môr-ladron wedi bod yn ffordd wych o ddiweddu blwyddyn arall o waith ein myfyrwyr yn y gymuned; blwyddyn pryd y derbyniodd Undeb Myfyrwyr Bangor wobr genedlaethol am chwarae rhan yn y gymuned. Eleni, unwaith eto, fe wnaeth myfyrwyr marchnata’r Brifysgol arwain yr ymgyrch, ac roedd eu parodrwydd i chwarae rhan weithgar yn y mentrau hyn eto’n amlygu eu hymrwymiad a’u brwdfruydedd i warchod Bangor fel lle braf a chyfeillgar i fyw ynddo.”
Ychwanegodd Gwenan Hine, Cofrestrydd Cynorthwyol ym Mhrifysgol Bangor, sy’n arwain Grŵp y Brifysgol a’r Myfyrwyr o Balchder Bangor:
“Mae’n wych gweld y Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr a Cyngor Gwynedd yn parhau i adeiladu ar lwyddiannau ymgyrchoedd blaenorol ac yn gweithio gyda’i gilydd i gadw strydoedd Bangor yn lân a thaclus.”
Meddai llefarydd ar ran y myfyrwyr:
“Mae gweithio ar ymgyrch y Môrladron wedi bod yn brofiad gwerthfawr ac wedi rhoi sialens farchnata wirioneddol inni. Fe gawson ni’r cyfle i ddatblygu’n syniadau ein hunain ar sut i greu ymwybyddiaeth am gasgliadau ailgylchu a gwastraff ar ddiwedd tymor, ac fe wnaethon ni benderfynu defnyddio rhwydweithio cymdeithasol, marchnata e-bost, hysbysebu screensaver a chystadleuaeth lluniau myfyrwyr er mwyn creu cyffro o gwmpas ymgyrch hwyliog. Fe wnaethon ni hefyd fwynhau cydweithio â Balchder Bangor, Cyngor Gwynedd ac Undeb y Myfyrwyr ar brosiect marchnata cymunedol ac amgylcheddol pwysig.”
Meddai Peter Simpson, Rheolwr Gwasanaethau Stryd Cyngor Gwynedd: “Am y drydedd flwyddyn yn olynol, mae Balchder Bangor wedi dangos sut y gall partneriaeth agos helpu i wneud gwahaniaeth mawr yn y ddinas.
“Mae’r myfyrwyr yn haeddu cael eu canmol am gynnal eu hymgyrch arloesol eu hunain ar ddiwedd tymor i godi ymwybyddiaeth am wastraff ac ailgylchu. Mi fuon nhw’n cydweithredu’n agos efo timau casglu gwastraff Cyngor Gwynedd, fel bod gwastraff ar ddiwedd tymor yn cael ei roi allan ar yr amser iawn a’i gasglu’n gyflym.”
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2012