Myfyrwyr Bangor yn ymuno â Phill Jupitus ar y llwyfan
Cafodd myfyrwyr o Gymdeithas Gomedi Prifysgol Bangor gyfle gwych yn ddiweddar, pan aethon nhw ar y llwyfan gyda Phill Jupitus yn Venue Cymru fel rhan o ŵyl gomedi Giddy Goat. Cafodd y saith myfyriwr lwcus gyfle i berfformio ar ôl i aelodau o’r gymdeithas sylweddoli fod yna ŵyl gomedi newydd yn mynd i gael ei chynnal yn Llandudno, a siarad gyda’r trefnwyr ynglŷn â chymryd rhan.
Dywedodd Antony Butcher, Llywydd y Gymdeithas “Mi oedd pawb a gymrodd ran yn gymaint o help, ac yn gweithio yn eithriadol o galed i’n helpu ni i gynnal y sioe wych yma. Pan wnes i gais i’r Brifysgol doeddwn i byth y meddwl y buaswn i’n cael rhannu llwyfan gyda Phill Jupitus - mae’n dangos yn glir y profiadau arbennig sydd ar gael i fyfyrwyr ym Mangor.”
Gwelwyd y sioe a oedd yn awr o hyd gan bron i 150 o bobl a chodwyd ychydig dros £1000 i Hosbis Dewi Sant yn Llandudno. Dywedodd Steve Doherty, Rheolwr Cynhyrchu Incwm yn yr hosbis “Roeddwn i wedi gwirioni pan ffoniodd Antony mor annisgwyl, ar ôl i mi ddarllen am lansiad Giddy Goat yn y papur. Mae’r hosbis yn dibynnu ar y math yma o waith cymunedol ac roedd yr union beth oedd ei angen ym mlwyddyn gyntaf yr ŵyl. Roeddwn i’n meddwl ei fod yn dangos llawer o frwdfrydedd ar ran y myfyrwyr, ac roedd yn bleser ac yn fwyaf oll yn hwyl cael y Gymdeithas Gomedi gymryd rhan”.
Dywedodd Rich Gorman, Is-lywydd a Swyddog Cymdeithasau Undeb Myfyrwyr Bangor, “Mae’n wych i weld cymdeithas myfyrwyr arall yn perfformio ar lefel mor uchel ac yn llwyddo i gael cyfleoedd fel hyn. Mae’n esiampl wych o pam fod Bangor yn cynnig cymaint i fyfyrwyr, ac ar ben hynny fe wnaeth y gymdeithas godi swm anferth o arian i elusen leol gan ddangos bod myfyrwyr yn cael effaith gadarnhaol ar eu cymunedau lleol.”
Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2011