Myfyrwyr bodlon Prifysgol Bangor yn rhoi’r Brifysgol yn ail yng Nghymru
Fel y mae staff Prifysgol Bangor yn edrych ymlaen at gadarnhau lleoedd i fyfyrwyr newydd ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, bydd y myfyrwyr hynny yn falch o wybod eu bod ar fin ymuno â myfyrwyr bodlon iawn.
Wrth ymateb i arolwg Boddhad Myfyrwyr Cenedlaethol blynyddol, mae’r myfyrwyr wedi gosod Prifysgol Bangor yn gydradd ail ymysg sefydliadau addysg uwch Cymru yn ôl 'boddhad cyffredinol’ y myfyrwyr â'u cwrs a'r profiad prifysgol.
Mae'r canlyniadau'n adlewyrchu'n dda ar y pwyslais y mae Prifysgol Bangor yn ei roi ar addysgu a gofal myfyrwyr.
Mae Prifysgol Bangor wedi gwella ei chanlyniadau o 2% ar ffigurau'r llynedd, gydag 86% o'r myfyrwyr yn dweud eu bod yn fodlon ar y cyfan. Mae bron i draean o’r meysydd pwnc wedi ennill 90% neu’n uwch.
Wrth sôn am y canlyniadau dywedodd yr Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is-ganghellor dros Addysgu a Dysgu: "Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ansawdd ein haddysgu a gofal myfyrwyr ym Mangor. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gwella systemau ymhellach fel ein bod yn ymateb yn fwy cyflym ac yn briodol i faterion sy'n peri pryder i fyfyrwyr ac wedi rhedeg ymgyrch i wella agweddau amrywiol ar adborth i fyfyrwyr: enghreifftiau o'n hymroddiad at ddarparu profiad ardderchog i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor. "
Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2013