Myfyrwyr bodlon yn gosod Prifysgol Bangor ymysg prifysgolion gorau'r DU
Mae Prifysgol Bangor unwaith eto yn ymddangos ymysg y 10 prifysgolion anarbenigol uchaf yn y DU yn ôl canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr diweddaraf.
Daw’r newyddion ar ôl i’r Brifysgol gael ei rhestru ymhlith y 100 o brifysgolion gorau Ewrop yn y Times Higher Education (THE) European Teaching Rankings diweddar, y tabl cyntaf i ganolbwyntio'n unig ar addysgu a dysgu.
Dyfarnwyd Safon Aur hefyd i Brifysgol Bangor yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu cyntaf a gynhaliwyd gan Lywodraeth y DU. Mae’r Brifysgol hefyd yn perfformio’n dda bob blwyddyn yng Ngwobrwyon WhatUni Student Choice Awards.
Mae'r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, sef arolwg o dros 320,000 o fyfyrwyr sy’n graddio o bob prifysgol yn y DU, yn rhoi’r adborth mwyaf cynhwysfawr ar brofiad myfyrwyr ym mhob sefydliad. Eleni, o'r holl Brifysgolion sy'n cynnig ystod eang o bynciau, mae Bangor wedi'i rhestru ar y cyd yn 9fed yn y DU gyda chyfradd bodlonrwydd o 88%.
Meddai'r Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is-Ganghellor dros Addysgu a Dysgu ym Mhrifysgol Bangor:
"Mae'r Brifysgol yn ymfalchïo yn yr addysgu rhagorol a geir yma, ynghyd â’r gefnogaeth gref a gaiff myfyrwyr, ac mae canlyniadau’r arolwg yn adlewyrchu hynny. Mae'r data yma yn un o'r mesurau a ddefnyddiwn i sicrhau ein bod yn ymateb i'n myfyrwyr ac yn datblygu ac yn gwella eu profiad ym Mhrifysgol Bangor yn barhaus. Mae hefyd, wrth gwrs, yn werthfawr i ddarpar fyfyrwyr a fydd yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â pha Brifysgol i fynychu dros yr wythnosau nesaf. "
Mae canran bodlonrwydd Prifysgol Bangor yn 88%, sy’n uwch na chyfartaledd y DU sydd yn 83%, a chanran Cymru sydd yn 85%. Mae prif swyddogion y Brifysgol yn dweud mai safon uchel yr addysgu a’r profiad a gaiff myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor sy’n gyfrifol am y llwyddiant.
Ychwanegodd yr Athro Turnbull: "Wrth gwrs, mae ein holl staff yn cyfrannu tuag at ein hymrwymiad i'n myfyrwyr, a thuag at ansawdd eu profiad yn y Brifysgol. Hoffwn ddiolch i'r staff i gyd, a hoffwn hefyd ddiolch o galon i'n graddedigion diweddar am roi adborth cystal i'n Prifysgol."
Mae pedwar maes pwnc wedi cael sgôr boddhad o 100%, Y pedwar ydi Astudiaethau Celtaidd (Cymraeg), Ffrangeg, Astudiaethau Dylunio a Pholisi Cymdeithasol.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Gorffennaf 2018