Myfyrwyr bodlon yn rhoi Prifysgol Bangor ar y rhestr fer ar gyfer chwe gwobr
Mae Prifysgol Bangor ar y rhestr fer ar gyfer chwech o’r naw gwobr yng Ngwobrau mawreddog WhatUni Student Choice.
Mae hyn yn dilyn blwyddyn ryfeddol i Fangor, pryd y daeth y Brifysgol yn gyntaf yng Nghymru ac yn 7fed yn y DU am foddhad myfyrwyr, pryd y daeth yn un o’r 100 Prifysgol orau yn y byd am ei hagwedd ryngwladol, ac y daeth yn un o’r 20 uchaf yn y DU o ran profiad myfyrwyr.
Ar sail ymatebion gan fwy nag 20,000 o fyfyrwyr ar draws y DU, wrth iddynt nodi eu barn ar wefan Whatuni Student Rankings, mae myfyrwyr Bangor wedi ymateb mor gadarnhaol i’w profiad yn y Brifysgol fel bod Bangor wedi cael enwebiad am Wobrau yn y categorïau canlynol:
- Prifysgol y Flwyddyn
- Llety
- Cyrsiau
- Clybiau a Chymdeithasau
- Cyfleusterau’r Brifysgol
- Cefnogi Myfyrwyr
Croesawodd yr Athro John G Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol, y newyddion, gan ddweud:
“Mae’n bleser gen i fod y Brifysgol wedi cael cymaint o enwebiadau am y Gwobrau hyn, ac yn ddiolchgar i’r holl fyfyrwyr am eu cymorth. Mae’r enwebiadau hyn yn adlewyrchu ein ffocws ar ddarparu addysg ragorol a phrofiad cyffredinol, myfyriwr-ganolog o fywyd prifysgol. Rwy’n falch fod ein myfyrwyr presennol yn gwerthfawrogi eu hamser ym Mangor, a bod cymaint yn dewis chwarae rhan mor weithgar ym mywyd y Brifysgol. Hoffwn ddiolch i’r holl staff am eu hymdrechion gwych.”
Ychwanegodd Simon Emmett, Rheolwr-Gyfarwyddwr Whatuni.com: “I ddarpar-fyfyrwyr, mae cael gwybod yn uniongyrchol am ansawdd addysg a disgwyliadau realistig am fywyd mewn prifysgol yn adnodd amhrisiadwy wrth benderfynu ynglŷn â dilyn astudiaethau ar lefel gradd. Ein gobaith ni yw bod y safleoedd y mae myfyrwyr yn gosod prifysgolion arnynt yn cyfrannu at yr ymchwil a’r paratoad sy’n ofynnol fel y gall pob myfyriwr ddewis y brifysgol sy’n iawn iddo ef/ iddi hi.”
Mae llwyddiannau diweddar eraill Prifysgol Bangor yn cynnwys ennill canlyniadau gwych yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF), a nododd fod mwy na thri chwarter ymchwil Bangor naill ai’n “benigamp” neu’n “rhagorol yn rhyngwladol”.
Mae Bangor hefyd yn y 10% uchaf o brifysgolion gwyrddaf y byd ac, yn ddiweddar, wedi ennill Safon Ryngwladol ISO14001 a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Cyhoeddir Whatuni Student Rankings ar 23 Ebrill mewn seremoni sydd i’w chynnal yn Llundain.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2015