Myfyrwyr Busnes yn mynd i'r afael â phroblemau gwastraff Bangor drwy Ymgyrch Swynwr Sbwriel Bangor
Mae myfyrwyr Ysgol Busnes Bangor wedi cymryd rhan mewn datblygu ymgyrch diwedd tymor i leihau problemau gwastraff ym Mangor.
Mae'r ymgyrch Swynwr Sbwriel lle bydd partneriaid yn gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â'r broblem flynyddol o wastraff ar ddiwedd tymor o sbwriel gollwng ar y stryd a mannau cyhoeddus eraill, wedi cael ei ddatblygu a bydd yn cael ei arwain gan fyfyrwyr Meistr o Ysgol Fusnes y Brifysgol ar y cyd â Gwynedd Cyngor. Nod yr ymgyrch a arweinir gan fyfyrwyr yn defnyddio y cymeriad doniol ac ysgafn ‘Swynwr y Sbwriel’ er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r angen i gael gwared ar sbwriel ac ailgylchu’n gyfrifol.
Mae Cyngor Gwynedd yn chwarae ei ran yn yr ymgyrch drwy drefnu casgliadau gwastraff ychwanegol ar y stryd i gyd-fynd a’r ymgyrch Swynwr Sbwriel. Bydd y Cyngor yn canolbwyntio ar gasglu sbwriel myfyrwyr i wella'r amgylchedd lleol ar adeg pan mae gwstraff diwedd tymor yn gallu adeiladu a gollwng dros strydoedd. Bydd y Swynwr Sbwriel yn dod i Fangor ar yr 2il, 9fed a 16eg o Fehefin gan ofyn i fyfyrwyr i roi eu sbwriel ychwanegol allan ar y dyddiau dynodedig arbennig yma wrth glirio o’u llety. Fel rhan o'r ymgyrch, bydd yna hefyd sesiwn godi sbwriel i fyfyrwyr ym Mangor ar ddydd Mercher y 28ain o Fai ar y cyd gyda Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor.
Meddai Sebastien Combret, myfyriwr busnes: "Mae gweithio ar yr ymgyrch ‘Swynwr Sbwriel’ wedi bod yn brofiad gwerthfawr ac wedi rhoi her marchnata go iawn i ni. Fe gaethom y cael i ddatblygu ein syniadau ein hunain ar sut i greu ymwybyddiaeth am gasgliadau ailgylchu a gwastraff diwedd tymor, ac fe benderfynom ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, e-bost farchnata, hysbysebu ar arbedwyr sgrin a chystadleuaeth ffotograffiaeth myfyriwr i greu cyffro o gwmpas cysyniad difyr.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2014