Myfyrwyr Crefftus Prifysgol Bangor
Prif atyniad Marchnad Nadolig Prifysgol Bangor eleni oedd crefftau cartref, cyfle i arddangos creadigrwydd myfyrwyr ar draws nifer o ddisgyblaethau. Daeth ymron i 2,000 o bobl trwy'r drysau ac unwaith eto bu'n gyfle perffaith i brynu anrhegion Nadolig a chefnogi ymdrechion y myfyrwyr. Roedd yn gyffrous gweld cynrychiolaeth gan nifer o fusnesau newydd a gymerodd y cyfle i werthu eu cynnyrch am y tro cyntaf a choethi eu sgiliau busnes ar yr un pryd.
Roedd marchnad eleni'n cynnwys mwy o amrywiaeth o nwyddau nag erioed; o gelf ewinedd at debotau a the, creadigaethau pyrograffig a cholur yn ogystal ag amrywiaeth o addurniadau, cardiau, gemwaith a chacennau Nadolig.
Ymysg yr oddeutu 80 o stondinau roedd yna gymdeithasau myfyrwyr yn cynnwys Clwb Octopush Prifysgol Bangor, y Gymdeithas Amser Te, y Gymdeithas Mamaliaid Môr, Enactus Bangor, a oedd yn gwerthu eu calendr o ffotograffau lleol ar y cyd â'r Gymdeithas Ffotograffiaeth er mwyn cyllido projectau cymunedol a'r Gymdeithas Makerspace, cymdeithas o wneuthurwyr, dylunwyr a rhaglenwyr. Cafwyd cryn lwyddiant gan grŵp o ddysgwyr sy'n dilyn y cwrs sgiliau byw yn annibynnol ar safle Llangefni Grŵp Llandrillo Menai wrth werthu anrhegion a thorchau Nadolig.
Roedd amryw o gymdeithasau myfyrwyr rhyngwladol yn brysur yno hefyd yn gwerthu brethynnau, dillad a byrbrydau Affricanaidd, crefftau o'r dwyrain canol, cardiau origami Japaneaidd a bwydydd a chrefftau o Fietnam.
Crëwyd dipyn o gynnwrf ymysg y cwsmeriaid gan y teganau meddal o waith llaw Rhiannon Quirk, Graddiodd Rhiannon mewn Dylunio Cynnyrch a dechrau ei busnes ei hun yn ddiweddar, Quirks Plushies.
Dywedodd Rhiannon: "Roedd fy stondin yn llwyddiant, ac ar brydiau roedd yn rhuthr gwyllt. Mae'r profiad wedi rhoi syniad gwell i mi am brisio, ymwneud â chwsmeriaid, a pha rai o'm nwyddau oedd fwyaf poblogaidd gyda chwsmeriaid. Roedd y profiad yn ei gyfanrwydd yn fuddiol iawn i mi, a buaswn yn ei argymell i unrhyw un sydd eisiau dechrau busnes."
Gwobrwywyd Grace Lawson a Jonah Hayward yn gydradd gyntaf am y stondin orau yn gyffredinol, gwobr dan nawdd Prifysgolion Santander.
Dywedodd Grace, myfyriwr ail flwyddyn yr Amgylchedd a Chadwraeth, oedd yn codi arian i Frownis Maesgeirchen: "Cafodd yr arweinwyr i gyd brofiad rhagorol yn y farchnad, yn cyfarfod a siarad gyda phobl newydd oedd â phrofiad eu hunain o’r Mudiad Geidiau. Roedd yn dda gweld cynifer o bobl yn cefnogi ein hachos ac yn helpu'r merched. Gwnaethom yn dda iawn o ran codi arian, ac fe fydd hynny o gymorth mawr i ni. Euthum i sesiynau sgiliau cyn y farchnad a'm helpodd i brisio'n gywir a chyflwyno fy stondin mewn ffordd well. Cyfrannodd hynny at ennill y stondin orau, a oedd o gymorth mawr i ni. Roedd yr holl beth yn brofiad anhygoel."
Roedd Jonah, sy'n astudio Sŵoleg gydag Ymddygiad Anifeiliaid, yn gwerthu jam a chaul. Dyma oedd ei ymateb: "Mae'r Farchnad Nadolig Myfyrwyr wedi rhoi cyfle gwych i mi ymarfer fy sgiliau entrepreneuriaeth mewn maes sy'n rhoi pleser mawr i mi."
Aeth amryw o'r stondinwyr i weithdai ar 'Sut i Brisio' a 'Sut i Ymwneud â Chwsmeriaid' cyn y Farchnad a chynigiwyd sesiynau mentora un-i-un fel rhan o'r ddarpariaeth Byddwch Fentrus.
Aeth rhai o'r myfyrwyr ymlaen i fasnachu ymhellach dros y penwythnos yn y digwyddiad Cracyr Nadolig a gynhaliwyd yng nghanol dinas Bangor.
Mae Marchnad Nadolig y Myfyrwyr yn cael ei chydlynu'n flynyddol gan B-Fentrus yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd. Caiff B-Fentrus ei gyllido'n rhannol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid i Gymru.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Rhagfyr 2016