Myfyrwyr entrepreneuraidd yn gosod Bangor tua’r brig
Mae mwy o fyfyrwyr Prifysgol Bangor wedi creu busnesau eu hunain nag mewn unrhyw brifysgol yng Nghymru yn ôl arolwg newydd.
Roedd yr arolwg o 404,182 o fyfyrwyr o’r wyth sefydliad addysg uwch yng Nghymru yn dadansoddi’r nifer oedd wedi cychwyn eu busnesau eu hunain, symud i swydd uwch mewn busnes oedd wedi ei sefydlu eisoes, neu a oedd yn gweithio ar eu liwt eu hunain fel gweithwyr llawrydd.
Gosodwyd y Brifysgol yn yr ail le yng Nghymru o ran y categorïau i gyd, gyda bron i 10% (9.13%) o fyfyrwyr wedi graddio yn dewis profi eu sgiliau mentergarwch.
Mae’r sefydliad yn ymfalchïo yn ansawdd y dysgu a’r profiadau prifysgol sy’n cael ei gynnig, a’r adroddiad diweddaraf yn agwedd arall ar y profiad rhagorol i fyfyrwyr, ynghyd â datblygiad sgiliau a gwybodaeth sydd ar gael yn y Brifysgol.
Meddai’r Athro Iwan Davies, Is-ganghellor y Brifysgol:
“Mae entrepreneuriaeth yn elfen hanfodol o economi Cymru, gyda 95% o economi Cymru yn fusnesau bychain iawn yn cyflogi naw neu lai o bobl. Mae datblygu ffrwd o entrepreneuriaid y dyfodol a all ddod â sgiliau a gwasanaethau newydd felly’n hanfodol ar gyfer ein heconomi. Dyma pam ein bod yn rhoi cymaint o bwyslais ar annog ysbryd o fentergarwch ymysg ein myfyrwyr.
Rydym yn darparu cefnogaeth a chyngor ynghyd â chyfleoedd i brofi’r farchnad drwy gystadlaethau a marchnadoedd a modiwlau yn ein dysgu, fel bod ein myfyrwyr efo’r sgiliau i adnabod a datblygu eu mentergarwch a chymryd y camau cyntaf i fyd busnes.”
Mae’r newyddion mai Prifysgol Bangor oedd y cyntaf yng Nghymru i fynd i bartneriaeth efo IPSE (yr ‘Association of Independent Professionals and the Self Employed’) i gefnogi myfyrwyr sydd am, neu’n ystyried, gweithio’n llawrydd hefyd yn newyddion da i’r rhai hynny a adnabuwyd yn yr arolwg fel egin-weithwyr llawrydd.
Meddai Lowri Owen, Rheolwr Projectau Mentergarwch Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol:
“Mae cefnogi cyflogadwyedd ein myfyrwyr yn strategaeth allweddol ym Mhrifysgol Bangor ac mae hyn yn cynnwys rhoi cymorth i’r rhai hynny sydd eisiau cychwyn eu busnesau eu hunain neu fod yn hunangyflogedig.”
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mawrth 2020