Myfyrwyr i gynnal marathon gemau fideo 72 awr
Mae myfyrwyr o Gymdeithas Gemau Fideo Prifysgol Bangor yn paratoi ar gyfer sesiwn 72 awr o chwarae gemau ar Ddydd Gwener 25 Ionawr, i godi arian ar gyfer yr elusen plant, Child’s Play.
Disgwylir i tua 30 o bobl gymryd rhan yn y marathon, sy’n cael ei gynnal yn Ystafell Gyffredin Alaw ar Safle’r Ffriddoedd. Gall y rheini sydd eisiau dilyn yr antur ar-lein wylio’r hyn sy’n mynd ymlaen drwy www.twitch.tv/bugl
Dywedodd Adam Sharpley, un o drefnwyr y digwyddiad, “Mae Cymdeithas Gemau Fideo Prifysgol Bangor yn cyfarfod yn wythnosol i’r aelodau chwarae gemau fideo ac rydym hefyd yn trefnu sesiynau ar-lein.
“Penderfynom drefnu marathon gemau ar ôl holi’r aelodau. Roedd y pwyllgor eisiau cynnig digwyddiadau unigryw i gyd-fynd a’r cyfarfodydd wythnosol, a’r marathon gemau noddedig oedd y syniad mwyaf poblogaidd. Dewisom yr elusen Child’s Play am ei fod wedi ei sefydlu gan chwaraewyr gemau fideo i godi arian at brynu consolau ar gyfer ysbytai plant.”
Aros yn effro am 72 awr yw’r her fwyaf sy’n wynebu’r rhai sy’n cymryd rhan yn y marathon, ond mae hefyd opsiwn i’r aelodau chwarae am ychydig oriau dros y tri diwrnod.
Eglurodd Adam, “Yr hyn sydd fwyaf anodd i’r rhai sy’n cymryd rhan ydy delio gyda diffyg cwsg. Mae diffyg cwsg yn achosi llawer o broblemau fel effeithio ar dymer rhywun.
“Mae llywydd y gymdeithas, James West, wedi cwblhau sesiwn 72 awr o’r blaen ac mae’r rhan fwyaf o aelodau’r pwyllgor yn gyfarwydd iawn ag aros yn effro drwy’r nos! Er hynny, mae 72 awr am fod yn hynod o heriol ac rydym wedi hysbysu’r aelodau am beryglon cymryd rhan, a’u cynghori i orffwyso’n aml os ydynt yn anelu i gyflawni’r sesiwn 72 awr i gyd.
“Mae’r rhan fwyaf o’r aelodau’n bwriadu gwneud ychydig o oriau fan hyn a fan draw, neu efallai diwrnod cyfan. Mae gan rhai myfyrwyr arholiadau neu ddarlithoedd felly dydyn ni ddim yn disgwyl i unrhyw un orfodi eu hun i aros yn effro.
“Delio gydag ochr dechnegol y digwyddiad ydy’r her fawr arall am fod cymaint o wifrennau, gliniaduron a theledyddion. Mae gwylio’r gemau ar-lein hefyd yn boblogaidd ac yn ffordd dda o annog pobl i’n noddi, felly rhaid i ni wneud yn siŵr bod yr hyn sy’n cael ei ddarlledu’n ddiddorol.”
Mae’r gymdeithas yn barod wedi codi dipyn o arian i’r elusen a gall unrhyw un sydd eisiau cyfrannu wneud hynny drwy http://bugl.chipin.com/childsplay. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gymdeithas Gemau, gallwch gysylltu â nhw drwy Facebook http://www.facebook.com/groups/BangorUniGamingLeague/.
Ychwanegodd Adam, “Hoffwn ddiolch i bawb sy’n cymryd rhan, sydd wedi gwirfoddoli i fod ar y darllediad byw, ac i bawb sydd wedi ein noddi hyd yma.
“Gall unrhyw un sydd eisiau ymuno â’r gymdeithas ddod i’r sesiynau gemau sy’n cael eu cynnal rhwng 4-7pm bob ddydd Mercher yn ystod y tymor, yn adeilad Undeb y Myfyrwyr. Cewch hefyd fwy o wybodaeth drwy’r grŵp Facebook.”
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2013