Myfyrwyr ‘Menter trwy Ddylunio' Bangor yn mynd â’u sgiliau entrepreneuriaeth a’u cynnyrch i’r 'Dragons' Den '
Cynhelir cystadleuaeth ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon a all arwain at greu cynnyrch newydd i'r farchnad.
Mae un cynnyrch o gystadleuaeth flaenorol eisoes yn mynd i gael ei werthu’n fasnachol. Yn y project peilot arloesi, Menter trwy Ddylunio 2012, bydd myfyrwyr yn ceisio gwerthu eu cynnyrch yn rownd derfynol y Gystadleuaeth a gynhelir ddydd Iau, 22 Mawrth am 6.30pm yn Adeilad Wheldon, Prifysgol Bangor.
Mae 40 o fyfyrwyr israddedig o bum maes pwnc arbenigol yn y Brifysgol yn cymryd rhan yn ‘Menter trwy Ddylunio’. Maent wedi eu rhannu'n dimau amlddisgyblaethol o bedwar neu bum aelod. Mae'r myfyrwyr hyn yn cystadlu i greu cynnyrch, o'r dechrau i'r prototeip, ac yna cyflwyno eu project i banel o feirniaid er mwyn cael y cyfle i ennill rhan o gronfa gychwynnol o £10,000 fel buddsoddiad tuag at ddatblygu, ac o bosibl creu a gwerthu eu dyluniad yn fasnachol.
Gosodir yr her eleni gan DMM, cwmni o Lanberis sy'n dylunio ac yn cynhyrchu offer dringo a mynydda at ddibenion hamdden. Mae DMM wedi sylwi bod nifer cynyddol o blant ifanc yn ymweld â waliau dringo dan do, gan awgrymu bod nifer cynyddol o bobol ifanc gyda diddordeb yn y maes a all fod yn gwsmeriaid posibl. Gyda hyn mewn golwg, maent wedi gwahodd y timau i 'gynnig cysyniad cynnyrch ar gyfer plant dringwyr sy'n ymestyn ond nid yn gwanhau brand DMM'.
Yn ystod y rownd derfynol bydd y timau yn gwneud cyflwyniadau pedwar munud i’r beirniaid, gan gynnwys fideo 30 eiliad am eu cynnyrch. Mae’r panel beirniaid yn cynnwys David Noddings a Fred Hall (DMM), yr Athro David Shepherd (Dirprwy Is-ganghellor, Prifysgol Bangor),Phil Nelson (Cyfarwyddwr, Surf-Lines), Huw Watkins (Rheolwr Datblygu Busnes, BIC Innovations). Bydd panel iau o bump o blant rhwng 7-14 oed hefyd wrth law i graffu ar y cynnyrch a rhoi eu barn. Bydd cyfle i'r beirniaid fynychu Ffair Fasnach lle bydd cyfle i’r beirniaid weld prototeipiau o'r cynnyrch a gofyn cwestiynau i'r timau.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2012