Myfyrwyr mentrus yn cynnal Marchnad Nadolig
Cychwynnodd dathliadau’r Nadolig ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar efo Ffair Nadolig Myfyrwyr. Cymerodd dros 80 o fyfyrwyr, yn llawn ysbryd menter, ran yn y digwyddiad, a drefnwyd gan Broject Byddwch Fentrus, a daeth dros 500 o ymwelwyr i’r ffair.
Ymysg y cynnyrch ar werth roedd cacennau, gemwaith, crefftau o waith llaw, llyfrau ac anrhegion Nadolig yn ogystal â dillad unigryw, hetiau a sgarffiau, i gyd wedi eu gwneud â llaw, a pheli siocled o wahanol fathau. Cafwyd rafflau, cystadleuaeth ‘dyfalwch bwysau’r gacen’, dosbarthiadau dawns a thocynnau ar gyfer digwyddiadau elusennol. Darparwyd cerddoriaeth fyw amrywiol gan fyfyrwyr, yn cynnwys ‘band pres 9 tan 5’; band pres pum aelod; Gimme Fiction, band efo dau aelod, Ben Smith a Matt Pike; a Tom Cole, canwr unigol a gitarydd.
Bu nifer o gymdeithasau myfyrwyr hefyd yn cymryd rhan, gan gynnwys Cymdeithas Busnes a Menter Prifysgol Bangor, Rag, Amnest Rhyngwladol, Grŵp Gweithredu Myfyrwyr dros Treborth, Cymdeithas y Merched a’r Gymdeithas Daearyddiaeth.
Daeth mentrau cymdeithasol lleol hefyd i’r achlysur er mwyn codi ymwybyddiaeth o fusnes gyda chyfrifoldebau cymdeithasol ac amgylcheddol, a rhoddodd nifer fawr o’r stondinwyr beth o’u helw at elusennau. Ymysg yr elusennau i dderbyn arian o ganlyniad i’r digwyddiad roedd Cymdeithas Alzheimer’s, Tîm Achub Mynydd Llanberis, Tŷ Gwydr, Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth, Diwrnod AIDS Byd-eang, Ambiwlans Awyr Cymru, Hosbis Plant Tŷ Gobaith a’r Gymdeithas Cadwraeth Môr.
Rhoddodd yr achlysur y cyfle i fyfyrwyr fod yn entrepreneuriaid am y diwrnod mewn awyrgylch diogel, a rhoi’r cyfle iddynt brofi’r farchnad ar gyfer eu cynnyrch a gwasanaethau.
Meddai Lynn Goodhew, Pennaeth y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd: “Nid yn unig fe wnaeth yr egin entrepreneuriaid elw o’r gwerthiant, fe wnaethant lwyddo hefyd i gyfrannu rhan o’r elw i elusen o’u dewis. Felly, nid yn unig fe wnaethant gyfrannu arian at achosion da, ond hefyd ennill profiad o sgiliau ymarferol cynhyrchu a gwerthu nwyddau ac, yn hollbwysig, cymryd rhan mewn digwyddiad llawn hwyl yr ŵyl.”
Hoffai’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ddiolch i’r canlynol am gyfrannu gwobrau raffl:
Rheilffordd yr Wyddfa - tocyn dwy ffordd i deulu, Fat Cat Café Bar – pryd i 2, Becws Cae Gors – cacennau lleol, Londis Nefyn –Basged ffrwythau, Maes Glas – tocyn defnyddio’r adnoddau am fis, Halen Môn / Anglesey Sea Salt – tocyn £10, Toffoc - 2 botel o Toffoc, Blue Sky Café – tocyn £10, Y Galeri, Caernarfon – 4 tocyn sinema, Dimensions – anrheg bwyd iach, Subway – brechdan 6 troedfedd. Rhoddwyd eitemau bwyd a danteithion ar gyfer y wobr gyntaf, Basged Nadolig Fawr, gan staff y Ganolfan.
Bydd peth o’r elw o’r raffl yn mynd at Tŷ Gwydr, Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth a Tîm Achub Mynydd Llanberis.
Gwyliwch y clip ar BangorTV yma.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2010