Myfyrwyr mwyaf bodlon Cymru i’w cael ym Mhrifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn parhau i gynyddu ei phoblogrwydd ymysg myfyrwyr. Unwaith eto mae’r Brifysgol ar y brig yng Nghymru ac yn safle 14 ym Mhrydain mewn arolwg newydd ar brofiad myfyrwyr (Times Higher Education Student Experience Survey 2015).
Yn yr arolwg, a wnaed gan YouthSight ar gyfer cylchgrawn y Times Higher Education, gofynnwyd i fyfyrwyr raddio’u profiad prifysgol yn ôl sawl mesur academaidd, cymdeithasol a chyffredinol, gan ystyried cynnwys addysgol eu graddau, cyfleusterau, yr awyrgylch cyffredinol ac a fyddent yn argymell y brifysgol i’w ffrindiau.
Dyfarnwyd y sgoriau uchaf i ‘gyrsiau wedi eu saernïo’n dda’ ym Mhrifysgol Bangor. Rhoddodd myfyrwyr y Brifysgol sgôr ail uchaf i ‘staff sy’n barod i helpu/ dangos diddordeb’. Pwysleisir hyn drachefn gan sgor uchel arall am ‘berthynas dda gyda staff dysgu’, sy’n gadarnhad arbennig o ansawdd uchel y dysgu a’r gofal dros fyfyrwyr gan ddarlithwyr y brifysgol.
Roedd yr ymateb drwodd a thro gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn adlewyrchu ansawdd addysgol uchel y profiad dysgu, a’r gefnogaeth sydd yn atgyfnerthu profiad academaidd myfyrwyr y brifysgol, er enghraifft y sgor ucehl a roddwyd ar gyfer llyfrgell dda gydag oriau agor da. Roedd ffactorau eraill diogelwch, llety a chyfleusterau chwaraeon da i gyd yn sgorio’n uchel yn ogystal. Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor hefyd yn gwerthfawrogi’r amgylchedd da o amgylch y brifysgol, y bywyd cymdeithasol da a’r awyrgylch cymunedol braf, gan roi sgôr uchel i’r rhain i gyd.
Meddai’r Is-ganghellor, yr Athro John G. Hughes: “Rwyf unwaith eto’n falch iawn o’r perfformiad arbennig sydd yn tystio i’r profiad gwych y mae ein myfyrwyr yn ei gael yma ym Mhrifysgol Bangor. Mae hyn yn dilyn blwyddyn ryfeddol i Fangor, pryd y cafodd ei rhoi ymysg y 100 prifysgol uchaf yn y byd o ran ei golygwedd ryngwladol, ac yn yr 20 uchaf am brofiad myfyrwyr.
“Hoffwn ddiolch i staff a myfyrwyr unwaith yn rhagor am eu hymdrechion.”
“Mae llwyddiannau diweddar i’r Brifysgol yn cynnwys canlyniadau ardderchog yn yr asesiad cenedlaethol o ansawdd ymchwil (REF) a gydnabu fod mwy na thri chwarter ymchwil Bangor naill ai “gyda’r orau yn y byd” neu “yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol.”
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2015