Myfyrwyr newydd yn cael llwybrau i’r ddinas
Mae Penwythnos Croeso’r Brifysgol arnom unwaith eto - sef 20-21 Medi eleni, ac y mae staff ac Arweinwyr Cyfoed y Brifysgol yn paratoi i groesawu myfyrwyr newydd i Fangor. Oherwydd hyn disgwylir i drafnidiaeth fod yn drymach ym Mangor dros y penwythnos gydag tua 2,000 o fyfyrwyr a’u rhieni yn cyrraedd Neuaddau Preswyl y Brifysgol.
Er mwyn lleddfu'r tagfeydd traffig, mae'r Brifysgol yn rhannu derbyniadau dros y ddau ddiwrnod y penwythnos i leihau ar rai o’r problemau trafnidiaeth. Golyga hyn y gall fod y traffig yn drymach na’r arfer drwy’r penwythnos.
Mae llwybr coch yw arwain heibio’r dref o gylchfan Llandygai / Llys y Gwynt a'r llwybr glas yn dod oddi ar yr A55 ger Parc Menai, ac yna ar hyd Ffordd Caergybi i Fangor Uchaf. Efallai yr hoffai pobol leol cadw hyn mewn cof wrth gynllunio’u teithiau o amgylch y ddinas, gan fod traffig yn cael ei disgwyl i fod yn brysur.
"Mae'r defnydd o'r llwybr glas yn sicrhau llai o darfu ar draffig yn y ddinas ddydd Sadwrn, gan ein bod yn rhannu’r niferoedd sy’n cyrraedd y Brifysgol dros y deuddydd gan sicrhau mai dydd Sul yw’r diwrnod prysuraf," eglura Ken Griffith, Pennaeth Neuaddau Preswyl a Phennaeth Warden Prifysgol Bangor.
Wrth i'r myfyrwyr newydd yn cyrraedd yn eu Neuaddau, byddant yn cael eu croesawu gan eu Warden Neuadd, a fydd yn gyfrifol am eu gofal bugeiliol yn ystod y flwyddyn. Hefyd wrth law i roi cymorth i’r myfyrwyr newydd, fel y maent yn setlo i fywyd Prifysgol ym Mangor, fydd 'Arweinwyr Cyfoed'. Myfyriwr ail a thrydedd flwyddyn yw'r rhain, sydd wedi’u hyfforddi ar gyfer y rôl. Efallai y byddwch yn eu gweld o gwmpas yn gwisgo’u crysau T llachar yn ystod yr wythnosau nesaf.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Medi 2014