Myfyrwyr o Fangor yn perfformio yng ngŵyl Fringe Caeredin
Bydd myfyrwyr a graddedigion o Brifysgol Bangor yn cael cyfle anhygoel i berfformio yn yr ŵyl gelfyddydau fwyaf yn y byd y mis hwn.
Bydd BEDS (Cymdeithas Ddrama Saesneg Bangor), enillwyr ‘Perfformiad Gorau’ yng Ngwobrau Cymdeithas Prifysgol Bangor am ddwy flynedd yn olynol, yn perfformio dehongliad comig o’r nofel glasurol Don Quixote gan Miguel de Cervantes rhwng 11-23 Awst (ac eithrio 17) yng Ngŵyl Fringe Caeredin.
Cyhoeddwyd Don Quixote mewn dwy gyfrol, ym 1605 a 1615, a bernir bod y nofel ymysg y gweithiau mwyaf dylanwadol o fewn llenyddiaeth Sbaeneg, yn ogystal ac yn destun sylfaenol yn llenyddiaeth fodern y Gorllewin. Mae’r nofel wreiddiol yn dilyn anturiaethau Alonso Quixiano, sy’n darllen cymaint o nofelau sifalrig fel ei fod yn penderfynu mynd yn farchog, ac yn ei ddatgan ei hun yn Don Quixote.
Cyfarwyddir y perfformiad gan Sam Clark a Becki Moss, ac mae addasiad BEDS yn dilyn cynsail tebyg, wrth i’r dyn trwsgl, hunan-gyhoeddedig, Don Quixote, gyda chymorth annigonol gan ei gydymaith Sancho Panza, fynd ati i ddod o hyd i’w gariad coll, Dulcinea. Ar hyd y ffordd, mae'n rhaid i Don frwydro rhwng dau fyd sy’n gwrthdaro, sef y gwir a’r gau.
Bydd Don Quixote yn cael ei chwarae gan y myfyriwr Sŵoleg Andrew Hull, sydd hefyd yn edmygydd i David Attenborough. Tra oedd ar ymweliad â Chaeredin gyda BEDS y llynedd, dywedodd, “Mae hwn yn gyfle anhygoel i wella ar ein gwaith dros y blynyddoedd blaenorol, ac rydym yn gobeithio gwneud Bangor yn falch ohonom. Mae llawer o amser, ymdrech ac arian wedi mynd i mewn i hyn ac rydym yn sicr y bydd yn werth yr ymdrech.”
Graddedigion Llenyddiaeth Saesneg diweddar Daniel Chadwick ac Imogen Rowe fu’n chwarae rhannau Sancho Panza a Dulcinea. Y cast ategol yw Leila Gwynne, Edward Lang-Whiston, ac Aser-Megan Humphries. Robin Boyd a Daniel Hughes sy’n rhoi cymorth y tu ôl i’r llenni.
Bydd y perfformiad yn cael ei gynnal yn y Neuadd y Surgeons, Stryd Nicholson, am 7 o’r gloch bob nos, pris y tocynnau yw £5. Gellwch ddilyn BEDS ar Facebook a Twitter, a phrynu tocynnau trwy wefan EdFringe.
https://www.facebook.com/donquixote2014
https://twitter.com/BEDS_At_Fringe
https://tickets.edfringe.com/whats-on/don-quixote
Dyddiad cyhoeddi: 8 Awst 2014