Myfyrwyr o Fangor yn perfformio yng ngwyl Fringe Caeredin
Bydd myfyrwyr o Brifysgol Bangor yn cael y cyfle anhygoel o berfformio yn yr ŵyl gelfyddydau fwyaf yn y byd y mis hwn.
Mae'r grŵp, sy'n rhan o Gymdeithas Ddrama Saesneg Bangor (BEDS), yn perfformio addasiad o The Yellow Wallpaper gan Charlotte Perkins Gilman rhwng 13 a 25 Awst, yng Ngŵyl Fringe Caeredin. Cynhelir y perfformiad yn The Surgeon's Hall am 2 o’r gloch bob dydd, pris tocynnau yw £5.
Mae'r perfformiad yn seiliedig ar hanes cwpl sydd ar eu gwyliau yng nghefn gwlad, ac maent yn dod o hyd i hen ddyddiadur yn y tŷ lle maent yn aros. Mae'r dyddiadur, a ysgrifennwyd gan wraig a oedd wedi aros yno ddegawdau yn ôl, yn ei disgrifio hi’n cael ei hanfon yno gan ei meddyg a’i gŵr i ddod dros gyflwr hysterig. Mae'r wythnosau’n mynd heibio ac mae’r cofnodion yn y dyddiadur yn dod yn fwyfwy anghyson ac anghymarebol, ac mae hi'n dechrau ffantasïo am y byd o'i chwmpas. Mae’r cwpl wedyn yn dechrau meddwl tybed os yw’r peth oedd i fod i’w gwella, mewn gwirionedd yn ei gyrru o’i chof.
Cyfarwyddwyd y perfformiad gan Seth Allan a Daniel Hughes. Mae The Yellow Wallpaper yn cael ei ystyried yn waith pwysig o lenyddiaeth Americanaidd ffeministaidd cynnar, yn dangos agweddau tuag at iechyd corfforol a meddyliol merched yn y 19eg ganrif.
Mae’r cast yn cynnwys Abigail Gregory, Roddy Shaw, Nathan Moore, Chris Davies ac Amy Want gyda chefnogaeth dechnegol gan Robin Boyd ac Amy Hubbard.
Meddai Amy Hubbard: "Rydym wedi gweithio’n galed iawn ac rydym wedi rhoi o’n amser a’n arian i wireddu’r broject yma ac mae wedi bod yn werth pob eiliad. Rydym yn gobeithio y bydd Bangor yn falch ohonom ac rydym yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf".
Dilynwch BEDS ar eu taith yng Nghaeredin ar facebook.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Awst 2012