Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn Arddangos eu Cyflogadwyedd
Cynhaliwyd y Dathliad Cyflogadwyedd blynyddol yn ddiweddar i longyfarch myfyrwyr Prifysgol Bangor sydd wedi cymryd rhan yng Ngwobr Cyflogadwyedd Bangor ac wedi arddangos ymrwymiad arbennig i ddatblygu eu Cyflogadwyedd drwy weithgareddau allgyrsiol a chyd-gyrsiol tra yn y Brifysgol.
Roedd staff academaidd, myfyrwyr a chyflogwyr yn bresennol, ac roedd y digwyddiad yn gyfle i wobrwyo 8 Gwobr Ragoriaeth GCB i fyfyrwyr wedi eu henwebu gan eu ysgolion academaidd am gymryd camau positif i wella eu amcanion gyrfa ar ôl graddio yn yr haf.
Llongyfarchiadau i’r enillwyr: Samuel Bottom (Busnes), Peter Doggart (Peirianneg Electronig), Miriam Mbah (Y Gyfraith), Molly Davey (Ieithyddiaeth a Iaith Saesneg), Stacey Carless (Gwyddorau Eigion), Jake Sallaway-Costello (Seicoleg), Richard Dallison (Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth), a Manon Elwyn Hughes (Cymraeg).
Roedd y noson hefyd yn gyfle i wobrwyo Gwobr Rhagoriaeth mewn Menter gan Santander Universities i Rhi Willmot a Dan Taylor o’r Ysgol Seicoleg, am eu llwyddiant efo’r fenter Y Siop Bwydydd Hyll, a’u hymrwymiad i weithgareddau gwasanaeth B-Fentrus.
Clywyd cyflwyniadau difyr ac amrywiol gan 5 o’r enillwyr am eu profiadau o ddatblygu eu cyflogadwyedd. Cafwyd cyflwyniadau gan Peter Doggart (Peirianneg Electronig), Miriam Mbah (Y Gyfraith), Jake Sallaway-Costello (Seicoleg), Rhi Willmot (Seicoleg) a Dan Taylor (Seicoleg) gyda phob cyflwyniad yn amrywio o drafod profiadau gwirfoddoli, cymryd rhan yng Nghynllun Interniaeth GCB, cystadlaethau menter, profiadau tramor a darpariaeth ar gyfer chwilio am swydd raddedig cyntaf.
Siaradwr gwadd y noson oedd Bill Hilton, cyn fyfyrwiwr Prifysgol Bangor sy’n gweithio fel Ymgynghorydd Cyfathrebu a Marchnata efo cwmnïau rhyngwladol ar draws y byd. Cafwyd sgwrs ddifyr gan Bill am ei brofiadau fel myfyriwr graddedig o Fangor, ac am y gymhariaeth rhwng ysbryd myfyrwyr Bangor a Syr Harry Reichel, un o sefydlwyr y Brifysgol, oedd hefyd wedi arddangos menter a chyflogadwyedd drwy ei benderfyniad i wneud y Brifysgol yn llwyddiant.
Dywedodd Chris Little, Pennaeth y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd “Unwaith eto, mae’r Dathliad Cyflogadwyedd wedi bod yn llwyddiant, mae’n gwella o flwyddyn i flwyddyn ac yn arddangos rhai o dalentau gorau Prifysgol Bangor. Mewn marchnad waith mwy a mwy cystadleuol, mae Prifysgol Bangor, drwy’r GCB wedi dangos ei fod yn annog a rhoi’r hyder i fyfyrwyr lwyddo yn y farchnad waith. Roedd hi’n wych gweld cymaint o gyflogwyr yn bresennol i gefnogi’r GCB a’r myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn y Wobr.”
Mae modd gweld yr holl luniau o’r noson ar dudalen Facebook y Wobr Gyflogadwyedd.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2015