Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cefnogi deuawd gwerin gyfoes
Cafodd myfyrwyr Prifysgol Bangor gyfle anhygoel i berfformio gyda deuawd gwerin gyfoes boblogaidd ar safle neuaddau preswyl y Santes Fair yn ddiweddar.
Perfformiodd y ddeuawd Gilmore & Roberts, sydd wedi eu henwebu deirgwaith ar gyfer Gwobrau Gwerin Radio BBC2, gyngerdd arbennig i fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn Neuadd Acapella sydd wedi ei lleoli ym mhentref y Santes Fair. Dewiswyd y myfyrwyr i’w cefnogi yn dilyn cyfres o nosweithiau 'meic-agored' a drefnwyd gan y Cydlynwyr Campws Byw.
Daw Diana Ezerex, 21 oed, o'r Almaen ac mae’n fyfyrwraig Erasmus sy’n astudio Gwyddor Addysgol. Mae ganddi ystod eang o brofiad cerddorol ac mae hi wedi perfformio gyda bandiau mawr, grwpiau jas, fel unawdydd ac i gyfeiliant gitâr. Dywedodd Diana: "Fe es i noson meic-agored yn Acapella unwaith, dim ond i wrando ond mi wnes i gyflenwi ar gyfer myfyriwr arall a oedd i fod i berfformio'r noson honno. Wedyn gofynnwyd i mi a hoffwn gefnogi band ym mis Ebrill. Cefnogais Stefanie Heinzmann yr haf diwethaf, a thrwy gefnogi Gilmore & Roberts, rwy'n gobeithio creu mwy o rwydwaith ryngwladol. Roedd hon yn noson wych ac rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle."
Cyfeiliwyd Diana gan y gitarydd talentog Sam Penrhyn-Lowe, 22 oed, sydd newydd orffen ei radd Meistr mewn Sŵoleg a Herpetoleg.
Hefyd yn cefnogi Gilmore & Roberts ar y noson oedd Callahan, band sy'n cynnwys Josh Smith, 18 oed o Colchester, sydd ar ei flwyddyn gyntaf yn astudio Sŵoleg a Herpetoleg; Irfan Rais, 23 oed, o Singapore, sydd ar ei ail flwyddyn yn astudio Cerddoriaeth ac Ysgrifennu Creadigol a Meinir Williams, 20 oed, o Aberystwyth sydd ar ei hail flwyddyn yn astudio Cymraeg a Ffrangeg.
Meddai Meinir: "Gwnaethom gyfarfod drwy Gymdeithas Werin y Brifysgol, ac rydym yn chwarae yn sesiynau’r Gymdeithas yn y dafarn Groegaidd ar nos Fercher. Rydym i gyd wedi perfformio ar wahân o'r blaen, ond fe wnaethom benderfynu ffurfio’r band hwn cyn y Pasg, ac ein gig gyntaf oedd mewn digwyddiad meic-agored Campws Byw. Rydym yn chwarae cerddoriaeth werin o bob rhan o Ewrop a thu hwnt, yn cynnwys caneuon ac alawon Cymreig yn ogystal â chaneuon yn Swedeg a Maori. Rydym i gyd yn chwarae offerynnau amrywiol ac yn canu ac yn mwynhau creu cerddoriaeth yn gyffredinol.
"Dyma oedd ein gig gyntaf yn cefnogi unrhyw fath o grŵp! Rydym wedi chwarae mewn digwyddiadau meic-agored a thafarndai, ond erioed mewn gig fwy ffurfiol. Roeddem i gyd yn teimlo'n gyffrous iawn ac ychydig yn nerfus ar yr un pryd. Roedd yn brofiad anhygoel y byddwn yn ei gofio am byth, mae'n wych fod Campws Byw wedi rhoi’r cyfle hwn inni."
Dywedodd Katriona Gilmore o Gilmore & Roberts: "Roedd yn wych gweld staff y Brifysgol yn cefnogi ac annog eu myfyrwyr gyda nosweithiau meic-agored a chyfleoedd i berfformio – roedd y naws yn hamddenol iawn ac yn gyfeillgar ac mae Neuadd Acapella yn lleoliad hardd, ar gyfer perfformio ac o safbwynt y gynulleidfa!"
Cynhelir rhaglen Campws Byw y Brifysgol gan y Rheolwr Bywyd Preswyl a Chriw Myfyrwyr Campws Byw ar gyfer holl drigolion Neuaddau’r Brifysgol. Bwriad y rhaglen Campws Byw yw dod â myfyrwyr at ei gilydd fel cymuned gynhwysol fywiog, a chael profi amrywiaeth enfawr o weithgareddau a digwyddiadau llawn hwyl am ddim, gyda phobl o'r un anian.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mai 2016