Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cefnogi Disgyblion Chweched Dosbarth Môn
Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi bod yn cymryd rhan yn rhaglen ddysgu a mentora PROFI dros yr ychydig fisoedd diwethaf a daeth y rhaglen i ben gyda digwyddiad ar batrwm 'Dragon's Den' yn Neuadd Reichel ddydd Mawrth, 10 Chwefror.
Dros y 12 wythnos ddiwethaf mae myfyrwyr o Brifysgol Bangor, a elwir hefyd yn 'Profigators', wedi bod yn hwyluso gweithdai i ddisgyblion Blwyddyn 12 o Ysgolion Bodedern, David Hughes, Syr Thomas Jones, Llangefni a Chaergybi, gan eu helpu i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd trwy weithio ar brojectau i fynd i'r afael â phroblemau yn eu cymunedau.
Penllanw'r rhaglen oedd y 'Cynnig Syniadau Profi' pan oedd y timau'n cystadlu yn erbyn ei gilydd am wobr o £500 i roi eu syniadau ar waith, a hynny o flaen panel o feirniaid yn cynnwys cynrychiolwyr o Pontio, Santander Universities UK, Siemens PLC, Vi-ability a Horizon Nuclear Power.
Ysgol Caergybi fu'n fuddugol gyda'u hymgyrch 'Bonion yn y Biniau' a oedd yn argymell gosod biniau bonion o gwmpas canol tref Caergybi ar gyfer bonion sigaréts, i gael gwared ar y llanastr hyll o'r strydoedd.
Meddai Elen Bonner, Rheolwr Project PROFI: "Mae wedi bod yn fraint gweld pobl ifanc yn magu hyder wythnos ar ôl wythnos, ac mae eu hangerdd dros wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau'n ysbrydoliaeth i ni i gyd." Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor, sy'n hwyluso gweithdai mewn ysgolion, wedi bod yn gymorth amhrisiadwy i'r project."
Meddai Ruth-Pearson Blunt, Profigator (myfyriwr Seicoleg 2ail flwyddyn): "Dwi'n teimlo fy mod i wedi elwa cymaint o'r project â'r myfyrwyr roedden yn eu mentora. Fe wnes i ddatblygu llawer o sgiliau, fel rheoli amser, datrys problemau, cyfathrebu a diplomyddiaeth. Yr hyn na wnes i ei ddisgwyl oedd yr effaith eithriadol y byddai'r project yn ei gael ar fy hyder fy hun a'r teimlad o falchder a llwyddiant a deimlais pan gododd y bobl ifanc i wneud eu cyflwyniadau ar y noson olaf."
Meddai Aaron Hughes, Profigator (myfyriwr 3edd Flwyddyn Systemau Gwybodaeth Gyfrifiadurol): "Roedd Profi'n gyfle unigryw i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc yn Ynys Môn. Mae'r sgiliau a'r profiadau wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r bobl y gwnes eu mentora, yn ogystal ag i mi fy hun."
Noddir y rhaglen ar hyn o bryd gan gyflogwyr lleol, Horizon Nuclear Power, Santander Universities UK a Magnox.
Mae myfyrwyr PB a fu'n ymwneud â'r rhaglen wedi datblygu ystod o sgiliau cyflogadwyedd trosglwyddadwy, ac mae'r amser a dreuliwyd ganddynt yn gwirfoddoli wedi cyfrannu at eu Gwobr Cyflogadwyedd Bangor. Meddai Mari Roberts, Cydlynydd Gwobr Cyflogadwyedd Bangor; "Mae project Profi wedi rhoi cyfle i'n myfyrwyr roi eu sgiliau cyflogadwyedd ar waith a'u datblygu ymhellach, gan gael cyfle i ymwneud â'r gymuned leol yr un pryd. Bydd y profiad yn fuddiol iawn iddynt wrth wneud cais am swyddi yn y dyfodol. Bydd y brifysgol yn cydnabod eu hymroddiad i'r project yn ffurfiol trwy Wobr Cyflogadwyedd Bangor."
Os oes gennych ddiddordeb gwirfoddoli ar raglen Profi yn 2015/16, cysylltwch ag Elen Bonner ( e.bonner@bangor.ac.uk ) neu 01248 382813.
Mae Profi wedi'i seilio ar raglen boblogaidd Prifysgol Bangor i israddedigion, 'Menter drwy Ddylunio' ac fe'i cefnogir gan yr Esmèe Fairbairn Foundation, Santander, Horizon a Magnox. Cafodd y rhaglen ei chynhyrchu ar y cyd gan Pontio, Chris Walker – People Systems International, myfyrwyr Prifysgol Bangor a phobl ifanc o Ysgol Gyfun Llangefni.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Chwefror 2015