Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cwrdd â Dug Caergrawnt
Yr wythnos hon mae myfyrwyr cadwraeth o Brifysgol Bangor wedi bod yn cwrdd â Dug Caergrawnt yn Tsieina. Mae’r myfyrwyr yno fel rhan o broject Gardd y Ddwy Ddraig, a sefydlwyd rhwng Gardd Fotaneg Treborth y Brifysgol a Gerddi Botaneg Trofannol Xishuangbanna (GBTX). Cafodd y myfyrwyr gyfle i gwrdd â’r Dug tra oeddynt yn cymryd rhan mewn cynhadledd o bwysigrwydd rhyngwladol ar fasnach anghyfreithlon mewn bywyd gwyllt.
Cafodd Sam Herniman, myfyriwr Cadwraeth Amgylcheddol yn ei drydedd flwyddyn, sydd yn Tsieina i ddysgu am dechnegau garddwriaethol i’w defnyddio yn yr ardd Tsieineaidd sydd yn cael ei ddatblygu ym Mangor, gyfle i wahodd y Dug i ymweld â Gardd Fotaneg Treborth sydd ar lannau’r Fenai yng Ngogledd Cymru.
Meddai Sam:
“Roedd y Dug yn glên; cyfeiriodd at Brifysgol Bangor fel ei Brifysgol leol ac roedd ganddo hoffter amlwg tuag at yr ardal. Dywedodd y byddai’n ymweld pe baem yn addo tywydd ffafriol!”
Bu’r myfyrwyr yn trafod gyda’r Dug yr hyn yr oeddent yn ei wneud yn Tsiena. Roedd yn rhyfeddu at y profiad da roeddent yn ei gael mor fuan yn eu gyrfaoedd. Meddai Faith Jones a raddiodd yn ddiweddar mewn Ecoleg Gymhwysol ym Mangor:
“Holodd ynghylch y gwaith rydym yn ei wneud ac roedd yn ymddangos fod ganddo wir ddiddordeb. Buom yn trafod y sialens o ganfod cyllid ar gyfer cadwraeth.”
Mae tri myfyriwr o Brifysgol Bangor, Sam Herniman, Faith Jones a Katie Breneol, wedi bod yn cymryd rhan mewn cynhadledd sydd â’r nod o fynd i’r afael â’r fasnach anghyfreithlon mewn bywyd gwyllt. Bu Dug Caergrawnt yn bresennol ar ddiwrnod olaf y gynhadledd, gan fod hwn yn fater sy’n agos at ei galon.
Cynhaliwyd y gynhadledd, Cadwraeth ar y Ffiniau, 2-4 Mawrth yng Ngerddi Botaneg Trofannol Xishuangbanna (GBTX) Nhalaith Yunnan yn Ne Tsiena, gan ddenu arbenigwyr cadwraeth o bob cwr o'r byd. Nod y gynhadledd oedd rhoi sylw i broblemau yn ymwneud â masnachu rhywogaethau dan fygythiad ar draws ffiniau gwledydd yn Ne ddwyrain Asia a thrafod atebion posibl i hynny.
Meddai Sophie Williams, Darlithydd mewn Cadwraeth ym Mhrifysgol Bangor, a chydlynydd y cyswllt rhwng GBTX a Bangor:
"Mae'r cyswllt rhwng Prifysgol Bangor a GBTX yn adlewyrchu ffocws rhyngwladol cynyddol y Brifysgol. Mae’r gynhadledd hon o bwysigrwydd rhyngwladol ym maes cadwraeth ac mae wedi rhoi profiad dysgu rhyngddiwylliannol hynod werthfawr i fyfyrwyr ym Mangor.
Bob dydd yn ystod y gynhadledd roedd y myfyrwyr yno yn gyrru crynodeb byr yn ôl i Fangor drwy gyswllt fideo, gan roi cyfle unigryw i fyfyrwyr gartref gael gwybodaeth fanwl ac arbenigol ynghylch eu maes astudio gan arbenigwyr blaenllaw. Mae’r myfyrwyr yn Tsieina a Bangor yn bwriadu crynhoi prif ganfyddiadau’r Gynhadledd er mwyn eu cyflwyno i’r Dug ar ffurf dogfen brifio.
Mae tri myfyriwr o Brifysgol Bangor, Sam Herniman, Faith Jones a Katie Breneol, yn gweithio yn GBTX ar hyn o bryd. Hwyluswyd eu swyddi yno gan broject Gardd y Ddwy Ddraig a sefydlwyd rhwng Gerddi Botaneg Treborth Prifysgol Bangor a GBTX. Aethant hwy i'r gynhadledd
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2015