Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cynorthwyo tîm pêl-droed newydd yn Amlwch
Wrth i ni edrych ymlaen at Bencampwriaeth Euro 2016, mae dau fyfyriwr o Brifysgol Bangor wedi bod yn cynorthwyo tîm pêl-droed newydd sbon yn Amlwch mewn cyfres newydd ar S4C.
Mae’r tîm wedi cael ei ffurfio, ynghyd a thri thîm arall yng Nghymru, ar gyfer cyfres Codi Gôl sy’n cael ei ddarlledu ar S4C, nos Sul am 8 o’r gloch. Yn chwarae yn y timau bydd mamau a thadau'r bobl ifanc sy'n chwarae dros dimau pêl-droed ieuenctid y clybiau, tra bydd pedwar cyn seren o fyd pêl-droed Cymru yn rheoli'r timau gwahanol.
Gwahoddwyd Aled Vaughan Thomas, 21, o Landegfan, Ynys Môn a Robin Owen, 21, o Benygroes sy’n fyfyrwyr yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer i gynnal profion ffitrwydd ar dîm Amlwch gan Owain Tudur Jones, cyn-chwaraewr Abertawe, Inverness Caledonian Thistle a Hibernian.
Esboniodd Aled: “Mi wnaethon gynnal gwahanol fathau o brofion ffitrwydd er mwyn asesu cyflymder, ystwythder a ffitrwydd tîm pêl-droed Amlwch. Mi roedd hyn yn cynnwys profion sbrint dros 20 medr er mwyn mesur eu cyflymder a faint oeddynt wedi blino drwy'r 'fatigue index'. Hefyd, cynhaliwyd y prawf 'Illinois' er mwyn profi ystwythder y tîm. Yn olaf, defnyddiwyd monitor y galon er mwyn ein galluogi i weld pa mor galed roedd aelodau'r tîm yn gweithio ac ar ba ddwyster.”
Ynglŷn â’i brofiad o weithio gydag Owain Tudur Jones, dywedodd Robin: "Roedd yn wych cael gweithio hefo Owain. Roedd yn ddiddorol iawn cael gweld sut oedd Owain yn defnyddio ei brofiad o chwarae'n broffesiynol i hyfforddi ei dîm.”
Ar ôl ychydig o hyfforddiant bydd y timoedd o Amlwch, Ffostrasol, Pwllheli a Rhydaman yn mynd benben â'i gilydd ym Mharc Latham yn y Drenewydd, gyda'r tîm buddugol yn cynrychioli Cymru mewn gêm arbennig yn erbyn tîm o rieni yn Llydaw yn ystod Pencampwriaeth Euro 2016.
Codi Gôl, Nos Sul, Mai 22, 8pm, S4C Isdeitlau Saesneg.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2016