Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cyrraedd copa Kilimanjaro
Ar ôl chwe diwrnod o waed, chwys a dagrau bu grŵp o fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn dathlu cyrraedd copa Mynydd Kilimanjaro i godi pres ar gyfer elusen.
Yn gynharach ym mis Medi, teithiodd y grŵp i Affrica i ddringo'r copa 5,895m i godi arian ar gyfer Dig Deep, elusen sy'n gweithio gyda chymunedau yn Kenya i ddarparu dŵr glân a charthffosiaeth.
Dan arweiniad Daniel Blaney o’r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, mae'r tîm o 7 o fyfyrwyr, cyn-fyfyrwyr a chyfeillion wedi llwyddo i godi’r swm anhygoel o £22,575 ar gyfer eu helusen ar ôl blwyddyn o godi arian.
Ar ôl iddyn nhw ddychwelyd o Affrica, meddai Daniel: "Roedd y profiad yn hollol wych a’r her gorfforol anoddaf rwyf wedi ei hwynebu erioed.
"Roeddem wedi ymuno â grŵp o Brifysgol Bath Spa ac fe wnaeth pob un ohonom gyrraedd y copa. Fel arweinydd y grŵp roeddwn wrth fy modd gyda hyn, gan mai ychydig iawn o grwpiau o’r maint yma sy’n cyrraedd y copa gyda'i gilydd.
"Dechreuodd y diwrnod lle yr oeddem yn anelu at y copa tua 1 o’r gloch yn y bore, oherwydd heb ocsigen ychwanegol roedd yn hanfodol bod gennym ddigon o amser ar ôl cyrraedd y copa i ddod yn ôl i lawr mor agos at lefel y môr ag y gallem. Ar ôl cyrraedd y copa roedd rhaid i ni ddisgyn 4000m, sef tua tair gwaith uchder yr Wyddfa. Yr her fwyaf a wynebwyd oedd yr uchder, mae'n effeithio ar bawb yn wahanol ac mae’n gallu achosi cur pen difrifol, chwydu a cholli archwaeth sef y broblem fwyaf difrifol o bosib gan eich bod yn llosgi yn agos at 4,000 o galorïau'r dydd.
"Y noson y cyrhaeddom y copa oedd y peth anoddaf rwyf wedi ei wneud erioed, ond mae'r wobr o gyrraedd y copa a chael golygfa 360 gradd o fôr o gymylau filoedd o fetrau islaw yn fwy o lawer na’r her.”
Roedd gan bob myfyriwr darged i godi £2,990 i ymgymryd â'r daith. Roedd eu digwyddiadau codi arian yn cynnwys sesiynau pacio bagiau mewn archfarchnadoedd lleol, digwyddiadau yn yr Academi, clwb nos y Brifysgol, gigs yn Bolton gan gyfeillion o'r tîm ac aethant ati hefyd i gyflawni’r dasg anodd o ddringo’r holl gopaon uwch na 3000 troedfedd yn Eryri fel ymarfer hyfforddi ac fel ffordd o godi mwy o arian.
Esboniodd Daniel: "Rydym yn codi arian ar gyfer yr elusen hon oherwydd bod y diffyg dŵr glân mewn gwledydd fel Kenya yn broblem enfawr, ond yn un y gallwn ei datrys yn hawdd. Efallai na fydd yr arian yr ydym yn ei godi yn swm mawr iawn i ni, ond mae'n cael effaith enfawr ar y bobl yn y cymunedau hyn ac mae’n golygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw i lawer ohonynt. Dylai pawb gael ffordd o gael dŵr glân ac fe all pawb wneud rhywbeth i helpu. "
Yn ogystal â Daniel roedd y tîm yn cynnwys Alex Battery, Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer; Imogen Hammond a Jasmine Chinnery, Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth; chwaer Daniel, Megan Blaney, Ysgol Busnes Bangor, Sam Rees, cyn-fyfyriwr a’u ffrind Ceri Morgan.
Mae'r gwelliannau y bydd yr elusen Dig Deep yn ei wneud yn caniatáu gwell safon addysg mewn cymunedau gwledig, sy'n golygu bod mwy o bobl yn gallu dianc rhag tlodi.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2015