Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn dathlu buddugoliaeth Varsity 2015 dros Aberystwyth
Yn ddiweddar, daeth mwy na mil o fyfyrwyr Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth at ei gilydd yn stadiwm Clwb Pêl-droed Dinas Bangor i wylio'r gêm olaf yng nghyfres Varsity 2015. Daeth y cystadlu i ben gyda Prifysgol Bangor yn casglu’r tlws am y tro cyntaf ers dwy flynedd.
Dechreuodd Varsity yn gynnar gyda chystadleuaeth golff, ac yna 35 o gêmau gwahanol o gwmpas Bangor yn ystod y dydd. Cafwyd amrywiaeth eang o chwaraeon, o athletau i ffrisbi, lle'r oedd pob gêm yn cyfrif tuag at ennill teitl Varsity.
Roedd yn rhaid ennill 19 gêm i sicrhau'r teitl, ac fe gafodd Bangor ddechrau da i’r diwrnod, gyda buddugoliaethau yn gynnar yn y triathlon a hoci merched (ail dîm). Roedd Bangor yn parhau i ennill y gemau cynnar ac ar y blaen o 8-3. Fodd bynnag, tua dechrau’r prynhawn, cafodd timau Aberystwyth hwb i’w gobeithion, gan ennill cystadlaethau pêl-fasged y dynion, codi hwyl, dawns, ffensio a hoci’r dynion (ail dîm).
Gyda theitl Varsity o fewn gafael, cafodd Bangor brynhawn da, gan ennill gêmau pêl-droed merched, lacrosse dynion a merched, ynghyd â buddugoliaeth ysgubol ym mhêl-fasged y merched, a sgôr o 64 o bwyntiau i 29 yn caniatáu i Fangor fynd ar y blaen. Gyda’r athletau a chanlyniadau tîm cyntaf hoci merched yn dod i mewn ychydig ar ôl 4 o’r gloch, roedd buddugoliaeth i Fangor bellach yn sicr, gyda sgôr o 21-11.
Ar ddiwedd y prynhawn, gwelwyd torf o wyrdd (Bangor) a phiws (Aberystwyth) yn llifo i mewn i Stadiwm Nantporth ar gyfer cystadleuaeth tîm cyntaf pêl-droed y dynion, sef gêm olaf y dydd. Ar ôl 30 munud o amser ychwanegol, roedd Bangor yn fuddugol gyda sgôr o 4 – 3. Ar ôl y chwiban olaf, roedd yn amlwg mai Bangor oedd enillwyr Varsity 2015.
Meddai Richard Bennett, Cyfarwyddwr Chwaraeon, “Roedd hwn yn ddiwrnod gwych ar gyfer chwaraeon ym Mangor gyda buddugoliaeth Varsity argyhoeddiadol o 28 pwynt i 11, gyda 29 o wahanol chwaraeon yn cael eu cynrychioli ar draws pob un o’r gêmau.”
Mae canlyniadau llawn ar gael ar wefan Seren.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Ebrill 2015