Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn paratoi ar gyfer Penwythnos Canoloesol
Ymunwch â’r Brenin Arthur a'i farchogion am benwythnos llawn hwyl o ymladd, gwledda, theatr, cerddoriaeth ac antur! Daw cymdeithasau myfyrwyr Phrifysgol Bangor a Chastell Biwmares at ei gilydd unwaith eto i ddarparu adloniant canoloesol, gan gynnwys theatr fyw, arddangosiadau saethyddiaeth, ymladd canoloesol, cerddoriaeth werin, a chynllwyn cyffrous drwy gydol penwythnos 6 a 7 Mehefin.
Nawr yn ei phumed flwyddyn, trefnir Penwythnos Canoloesol Biwmares ar y cyd gan Gyngor Tref Biwmares, Cadw a Chlybiau a Chymdeithasau Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor. Bydd dros 100 o fyfyrwyr o’r Clwb Saethyddiaeth, y Gymdeithas Hanes ac Archaeoleg, Cymdeithas Ail-Greu’r Canol Oesoedd, y Gymdeithas Gerddoriaeth Werin a’r Gymdeithas Ddrama Saesneg yn cynnig sesiynau blasu drwy gydol y penwythnos.
Meddai Dan Parker, capten y Clwb Saethyddiaeth: "Nid yn unig y mae'n ffordd wych i ni ddod at ein gilydd a gwneud yr hyn yr ydym yn ei fwynhau fwyaf, mae hefyd yn ein rhoi mewn cysylltiad â'r gymuned ehangach ac yn ein galluogi i rannu ein profiadau gyda nhw. Mae’r mwyafrif a ddaw i’n gweld heb brofi dim byd tebyg i hyn o’r blaen a chaent eu swyno gan yr hanes a gyflwynir iddynt – yn enwedig y rhai ifainc. Mae'n wirioneddol braf gweld y brwdfrydedd ar eu hwynebau pan fyddant yn cydio mewn bwa neu gleddyf am y tro cyntaf; ac yn dal i ddysgu rhywbeth ffeithiol!"
Meddai Mike Williams, Prif Geidwad Castell Biwmares: "Mae Castell Biwmares a Cadw yn hapus i groesawu myfyrwyr Prifysgol Bangor yn ôl. Mae’r Penwythnos Canoloesol sydd bellach yn ei bumed flwyddyn, mynd yn fwy poblogaidd pob blwyddyn. Bydd y digwyddiad eleni dros ddau ddiwrnod a bydd cyfle i ymwelwyr a phobl leol fwynhau nifer o weithgareddau y gallant eu gwylio a chymryd rhan ynddynt i ddysgu am sut roedd bywyd yn ystod y cyfnod canoloesol.
"Mae Cadw yn awyddus i weithio gyda grwpiau cymunedol lleol fel Prifysgol Bangor, ac mae Castell Biwmares wedi gwneud hynny ers nifer o flynyddoedd. Mae'r digwyddiad hwn yn dod â’r castell yn fyw ac yn denu llawer o fyfyrwyr o'r Brifysgol, ymwelwyr o’r ardal leol a thu hwnt. Mae'r digwyddiadau hyn yn helpu i hyrwyddo’r dreftadaeth bwysig sydd gennym yng Nghymru ac yn codi proffil Cadw a'r partneriaid rydym yn gweithio gyda hwy. Mae hyn hefyd â mantais economaidd i’r busnesau lleol yn y dref gan ei fod yn denu ymwelwyr ychwanegol sy’n gallu mwynhau’r ardal."
Meddai’r Athro Trevor Ashenden, Clerc Cyngor Tref Biwmares: “Mae Cyngor Tref Biwmares yn croesawu ymglymiad myfyrwyr Prifysgol Bangor yn y digwyddiad yn y castell.”
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2015