Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn rhannu eu ffilmiau yn Sinema Pontio
Ar Nos Wener, 10 Mai 7pm bydd Sinema Pontio a Chymdeithas Ffilm Prifysgol Bangor yn dangos ffilmiau wedi eu cynhyrchu gan fyfyrwyr, gan gynnwys gwaith myfyrwyr sy’n astudio yn Ysgol Cerddoriaeth a Chyfryngau Prifysgol Bangor a thrwy’r brifysgol, mewn noson sy’n agored i bawb.
Daw’r noson, sy’n cael ei gynnal yn flynyddol yn Sinema Pontio, â gwaith creadigol myfyrwyr Bangor ynghyd fel rhan o ddangosiad diwedd blwyddyn.
Ynghynt yn y flwyddyn academaidd, gwnaethpwyd alwad agored am ffilmiau, a bydd y noson yn gyfle i’r cyhoedd, myfyrwyr a staff y brifysgol fwynhau gweithiau a ddewiswyd gan y Gymdeithas Ffilmiau.
Dywedodd Hannah Grimston, Llywydd Cymdeithas Ffilm Prifysgol Bangor, ‘Mewn oes ble mae YouTube, a’r gallu i wneud ffilm, yn nwylo pawb drwy eu ffonau symudol, bydd y noson yn ddangos nifer o wahanol agweddau o wneud ffilmiau, ac o'r byd yn gyffredinol.
“Nid yw pawb sy’n aelod o’r Gymdeithas Ffilm yn astudio ffilm, felly mae’r dangosiad yn ein galluogi i fanteisio ar gyfleusterau proffesiynol sinema Pontio er mwyn cyflwyno gweithiau o bob math, o ffilmiau dogfen, byr, iasoer, gwleidyddol a chelf mewn sinema o’r safon uchaf.”
Ychwanegodd Jessica Simms, sydd hefyd yn fyfyriwr ac yn aelod o’r gymdeithas ffilm, “Nid oes themâu wedi’i gosod, a does dim cyfyngiadau. Rydym yn lwcus o gael nifer o leoliadau gwych ym Mangor – er enghraifft, defnyddiwyd Mynydd Parys fel tirwedd sci-fi, traethau, siambr y Cyngor a Chylch yr Orsedd wrth yr Hen Goleg. Bydd y noson yn dangos y dychymyg creadigol sydd yma.”
Nododd Emyr Glyn Williams, “Yn sicr, dyma un o uchafbwyntiau’r flwyddyn, ac mae’n ddathliad o’r talent sydd gennym yma ym Mangor.”
Noson Ffilm Myfyrwyr Bangor
Nos Wener 10 Mai, 7pm, Sinema Pontio
Mae tocynnau’n £3 ac ar gael o wefan Pontio www.pontio.co.uk neu 01248 38 28 28 neu drwy alw mewn i’r ganolfan.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2019