Myfyrwyr Prifysgol yn dod â’r Canol Oesoedd i Fiwmares!
Dros benwythnos gŵyl y banc cafodd ymwelwyr â Biwmares eu syfrdanu o weld yr holl dref yn gyforiog o liw a sŵn wrth i arglwydd canoloesol, oedd newydd ddychwelyd o’r croesgadau, geisio ail hawlio’r castell.
Fe wnaeth bron i 100 o berfformwyr o Undeb Myfyrwyr Bangor ddiddanu’r cyhoedd yn y castell a thrwy’r dref, drwy ail-greu’r canol oesoedd, arddangos saethyddiaeth ac anadlu tân, perfformiadau gan ddigrifwyr, dawnswyr gwerin a cherddorion traddodiadol Cymreig!
Dywedodd Clay Theakston, Maer Biwmares: “Roedd y perfformiad wedi’i drefnu’n dda a’i actio’n dda a chafodd dderbyniad gwresog gan bobl y dref a’r twristiaid fel ei gilydd”, gan ychwanegu ei bod “yn hanfodol yn yr hinsawdd bresennol fod trefi fel Biwmares yn defnyddio’r cyfoeth talent sydd ar gael yn y Gogledd”. Llenwyd y castell gan dros 200 o bobl ar gyfer uchafbwynt y dydd, gydag oedolion a phlant yn ymuno yn y cymeradwyo a’r gwawdio!
Dywedodd Rich Gorman, Is Lywydd Cymdeithasau a’r Gymuned Undeb Myfyrwyr Bangor: “Mae’r digwyddiad yma’n arddangos yr hyn a all ddigwydd pan fo myfyrwyr a’r gymuned yn gweithio gyda’i gilydd i greu digwyddiad anhygoel i bawb. Rydw i’n falch iawn o’r holl gyfranogwyr a threfnwyr am eu gwaith caled a’u hymroddiad”.
Nawr fod y baneri i lawr a’r cleddyfau dan glo, efallai fod gennych ddiddordeb mewn gwybod fod paratoadau eisoes ar droed i sicrhau fod digwyddiad blwyddyn nesaf hyd yn oed yn fwy ac yn well, ynghyd â threfniadau ar gyfer nifer o ddigwyddiadau eraill sy’n helpu i ddod â gweithgarwch myfyrwyr at y gymuned leol!
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2011