Myfyrwyr Seicoleg Bangor yn ennill yr ail wobr mewn cystadleuaeth cyflwyno syniadau yng Nghaerdydd
Teithiodd dau dîm o fyfyrwyr Meistr Seicoleg Defnyddwyr i Gaerdydd yn ddiweddar i gystadlu yng nghystadleuaeth "Brolio" Sefydliad Marchnata Siartredig. Y timau oedd: "The Three Marketeers" (Jamie Muir, Will Morgan, Manuel Calatrava Conesa) a "The National Thrust" (James Gudgeon, James Gillespie, Bryan Walls). Cafodd bob tîm dri munud ac wyth sleid i fynd i'r afael â her farchnata a osodwyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: "Sut y gallwn ni gael mwy o bobl 16-25 oed i wirfoddoli?" Roedd y beirniaid yn llawn canmoliaeth am wybodaeth fanwl y timau o Fangor gan eu bod wedi defnyddio'r ddealltwriaeth ddofn o seicoleg defnyddwyr y maent wedi ei dysgu yn ystod eu hastudiaethau. Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi gofyn i'r "Three Marketeers" am ragor o amser ymgynghori ar ôl y digwyddiad a dewiswyd y tîm arall o Fangor, "The National Thrust" i fod yn un o'r tri thîm i fynd ymlaen i gyflwyno eu syniadau yn y rownd derfynol yn adeilad y Senedd.
Rhoddwyd cyflwyniad gwych gan y "National Thrust" ond yn anffodus daethant yn ail i dîm o Abertawe. Pe baent wedi ennill, hon fyddai'r ail flwyddyn yn olynol i dîm o adran Seicoleg, Bangor ddod yn fuddugol yn y gystadleuaeth a fyddai wedi bod yn amseru da gan fod yr adran yn dathlu ei hanner canmlwyddiant eleni. Meddai James Gudgeon o'r tîm a ddaeth yn ail, "Roedd y digwyddiad Brolio yn gyfle gwych i mi ddefnyddio'r sgiliau rwyf wedi eu dysgu ar y cwrs meistr Seicoleg Defnyddwyr mewn amgylchedd cystadleuol. Roedd cyrraedd y rownd derfynol yn brofiad gwych ac yn sicr o fod o fantais pan fyddaf yn ceisio am waith yn y dyfodol." Ategwyd hyn gan Bryan Wells, "Byddwn yn argymell unrhyw fyfyriwr, waeth beth maent yn ei astudio ac os ydynt yn fyfyrwyr isradd neu ôl-radd, i gystadlu yn Brolio. Mae'n gyfle i ddysgu llawer o sgiliau gwerthfawr yn ogystal â chael llawer o hwyl a gallwch gael rhywbeth gwerth chweil i'w roi ar eich CV."
Meddai Dr James Intriligator (arweinydd academaidd y tîm ac uwch ddarlithydd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor), "Roeddwn yn andros o falch o ba mor dda y perfformiodd ein timau: roedd eu syniadau yn wirioneddol arloesol a gwnaethant eu cyflwyno'n wych. Yn ddi-os bydd y profiad hwn yn un gwerthfawr iawn i’w roi ar eu CVs ac yn gwella cyflogadwyedd pawb a gymerodd ran."
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2013