Myfyrwyr wedi'u dewis i gystadlu yng nghystadleuaeth TestTown y DU
Mae tîm o fyfyrwyr yn dathlu'r wythnos hon ar ôl cael eu dewis i gymryd rhan yn y gystadleuaeth TestTown 2014. Mae'r tîm yn cynnwys tri myfyriwr isradd seicoleg - Daniel Taylor, 23 oed o Salisbury, Emma Dixon, 21 oed, o Nottingham a Kate Isherwood, 21 oed o Penwortham– ynghyd â Louise Ainsworth, 20 oed o Bedford sy'n fyfyriwr meistr Seicoleg Defnyddwyr a Busnes. Byddant yn cael siop wag yn Stryd Fawr y Rhyl, gyda'r nod o sefydlu busnes dichonadwy mewn dim ond un wythnos.
Mae TestTown yn gystadleuaeth genedlaethol a gynhelir gan Carnergie UK Trust fel y gall pobl ifanc mentrus agor ‘siopau codi’ mewn un o wyth o drefi ar hyd a lled y DU. Nod y siopau codi hyn yw addysgu'r cyfranogwyr a hefyd ysbrydoli'r bobl leol a chael siopau'r stryd fawr ym Mhrydain i fod yn ffyniannus unwaith eto. Lansiwyd y gystadleuaeth y llynedd fel cynllun peilot, ac eisoes mae TestTown wedi creu llawer o ddiddordeb ymysg unigolion a sefydliadau gyda 400 o oedolion ifanc yn gwneud cais i gymryd rhan yn y cynllun eleni.
Dewiswyd tîm Prifysgol Bangor oherwydd eu syniad 'Rhyl Scoops', sef siop hufen ia gydag ethos clir o fenter gymdeithasol. Bydd y busnes yn agor gan werthu amrywiaeth o hufen ia ffres a'r cynllun yn y tymor hir fydd creu busnes lle mae'r gweithwyr yn cael hyfforddiant ac ennill cymwysterau NVQ lletygarwch, yn cefnogi busnesau lleol eraill a’i fod hefyd yn lle cymdeithasol i ymlacio a hel atgofion am Rhyl yn y gorffennol a'r presennol.
Meddai aelod o'r tîm, Emma Dixon:
"Roeddem eisiau rhywbeth a fyddai nid yn unig yn ein hatgoffa am yr hen lan y môr draddodiadol ond hefyd yn helpu a gwobrwyo'r bobl leol yn Rhyl. Mae'n deimlad anhygoel y bydd rhywbeth nad oedd yn fwy na dim ond syniad yn dod yn fusnes gweithredol mewn ychydig o wythnosau," meddai.
Bydd Prifysgol Bangor yn cystadlu yn erbyn pedwar tîm arall yn yr wythnos TestTown yn Rhyl rhwng 23 a 30 Mehefin, gyda'r tîm buddugol yn mynd ymlaen yn ddiweddarach i rownd derfynol mewn tref arall sydd heb ei chyhoeddi hyd yma, gyda chyfle i ennill £10,000 tuag at ddechrau busnes. Fel rhan o’r digwyddiad cyntaf fydd yn para saith diwrnod, bydd y tîm hefyd yn cymryd rhan mewn cynllun hyfforddi mentergarwch am ddau ddiwrnod ac yna’r diwrnod wedyn byddant yn cael yr allwedd i'w siop newydd a dechrau ei haddurno. Y nod yw y bydd y siopau yn barod ac yn agored rhwng 26 a 29 Mehefin.
Meddai'r Athro James Intriligator, Cyfarwyddwr rhaglen meistr Seicoleg Defnyddwyr a Busnes ym Mangor: "Rwyf yn arbennig o falch o'r tîm hwn. Nid oes pendraw i'w brwdfrydedd a'u creadigrwydd. Fis diwethaf roeddent yn cystadlu yn yr her busnes Flux, lle ddaethant yn ail a dychwelyd yn barod am ragor o sialensiau. Maent yn cydweithio'n arbennig o dda fel tîm, ac rwyf yn siŵr y byddant yn gwneud ymdrech fawr i geisio ennill y sgŵp cyfan o £10,000."
Meddai aelod o'r tîm, Louise Ainsworth:
"Mae'r ffaith nad ydym yn fyfyrwyr busnes yn golygu bod y cystadlaethau hyn yn dipyn o her ond rydym yn sefyll allan ac yn dod â rhywbeth newydd gerbron. Rydym i gyd yn frwdfrydig iawn ynglŷn â’r her fwyaf hyd yma a'r sgiliau parhaus rydym yn eu dysgu."
Mae'r tîm eisoes wedi gweithio'n galed i sefydlu sianeli ar-lein i gofnodi eu hantur a hysbysebu eu busnes yn cynnwys gostyngiad o 10% i bob myfyriwr. Gellwch weld sut byddant yn dod ymlaen ar eu blog www.rhylscoops.wordpress.com neu drwy ddilyn ‘Rhyl Scoops’ ar Facebook neu Twitter.
Mae’r tim Byddwch Fentrus o fewn y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ym Mhrifysgol Brifysgol yn ymrwynedig i annog a hyrwyddo’r math yma o weithgaredd, gyda chymorth gan gyllid Canolfan Rhanbarthol Llywodraeth Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mai 2014