Myfyrwyr yn cael eu dewis ar gyfer Ras Gyfnewid y Ffagl Olympaidd
Mae Allys Allsop Clipsham, myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, yn un o ddeg o fyfyrwyr o bob cwr o'r DU a ddewiswyd gan Coca-Cola, Partner Cyflwyno’r Ras Gyfnewid Ffagl Olympaidd Llundain 2012, i gydnabod a gwobrwyo cyfraniadau cadarnhaol a wnaed gan lawer o fyfyrwyr bob dydd.
Dewiswyd Allys, sy’n 19, ac yn fyfyrwraig Ieithyddiaeth blwyddyn gyntaf o Grantham, yn dilyn ymgyrch i ddod o hyd i fyfyrwyr ysbrydoledig neu 'Fflamau’r Dyfodol.'
Bydd Allys yn rhedeg er cof am ei hen daid a gafodd ei anafu yn yr Ail Ryfel Byd ac a aeth ymlaen i ennill medalau yn y Gemau Paralympaidd cyntaf ac a ysbrydolodd hi i ddod yn un o'r dyfarnwyr pêl-droed merched ieuengaf. Dywedodd Allys:
"Rwyf ar hyn o bryd yn chwarae i dîm pêl-droed merched y Brifysgol ac yn ddyfarnwraig gyda Cynghrhair Undebol y Gogledd a'r flwyddyn nesaf byddaf yn dyfarnu yng Nghynghrair y Merched. Yr wyf yn ymgeisio i fod yn yr Uwch Gynghrair i Ddynion yn Lloegr a gobeithio mynd ymlaen i fod yn ddyfarnwraig ym mhêl-droed Ewropeaidd. Yr wyf yn llethu fy mod wedi cael fy newis i redeg gyda'r ffagl. Rwyf wedi darllen cymaint o straeon ysbrydoledig ac mae'n fraint cael rhedeg gyda chymaint o bobl ysgogol ac chymryd rhan mewn digwyddiad mor unigryw."
Mae Allys yn un o'r myfyrwyr y mae son amdanynt mewn adroddiad UUK: corff ambarél Prifysgolion Prydain: Olympic and Paralympic Games, the Impact of Universities, a gyhoeddwyd ar gyfer Wythnos y Prifysgolion. Mae'r adroddiad yn datgelu bod mwy na 90 y cant o brifysgolion y DU yn ymwneud â Gemau Olympaidd Llundain 2012 a'r Gemau Paralympaidd, gyda 65 y cant yn disgwyl cael manteision hirdymor o gymryd rhan.
Hefyd yn cario’r fflam fydd Caitlen Moon. Bydd Caitlen, sy’n 21 ac sy’n enedigol o Stafford, yn cario’r Fflam drwy Great Wyrley ar 30 Mehefin 2012.
Mae Caitlen yn fyfyriwr drydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor, yn astudio Ffrangeg a Saesneg. Ar hyn o bryd mae hi ar ei blwyddyn dramor yn Ffrainc.
Mae Caitlen eisoes wedi bod yn ymwneud â Llundain 2012, bu’n lansio ( Rhaglen Arweinwyr Ifanc Llundain 2012 ) ym mis Ionawr 2010. Yn y digwyddiad cafodd cyfle i gyfweld Dr Tony Hayward a'r Fonesig Kelly Holmes am eu rolau yn y rhaglen wirfoddoli newydd.
Cafodd ei henwebu gan ei chwaer iau, Charis, a ysgrifennodd: "Caitlen Moon yw fy chwaer hŷn, gafodd ei geni yn gyda Chamweithrediad Tiwb Eustation. Golygodd hyn iddi gael pum llawdriniaeth ar ei chlustiau cyn yn 18 oed, tri phâr o Romedau yn ei chlustiau a Thiwb T yn ei chlust chwith. Doedd dim o hyn o gymorth, gan olygu bod ganddi dau Gymhorthydd Clyw, a hithau’n 18 oed. Byddai unrhyw un a oedd â’r boen a thrafferth yma’n rhoi’r gorau iddi ...ond nid fy chwaer. Dyna pam ei bod yn ysbrydoliaeth i mi ac eraill o’i hamgylch hi. Tydi hi byth yn gadael i’w anabledd cael y gorau ohoni.
Yn 2008, cafodd ei hethol MYP ar gyfer De Swydd Stafford, drwy hyn bu’n trafod yn Nhŷ'r Arglwyddi a wnaeth dros 300 awr o wirfoddoli. Yna yn 2009 daeth yn rhan o V20 gyda'r sefydliad gwirfoddol VInspired ac yna daeth yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr V. Yn 2010 agorodd hi raglen Olympaidd lle bu'n cyfweld Arglwydd Seb Coe a'r Fonesig Kelly Holmes. Wrth wireddu hyn oll, llwyddodd i oresgyn ei phroblemau clyw a chael Lefel A mewn Cerddoriaeth, Llenyddiaeth ac Iaith Saesneg a Ffrangeg. Mae hi nawr yn byw yn Ffrainc am 8 mis fel rhan o’i chwrs Prifysgol. Mae hyn yn ddigon anodd heb wynebu problemau clyw cyson, yn enwedig wrth wrando ar dafodieithoedd gwahanol Ffrangeg. Mae fy chwaer yn ysbrydoliaeth am ei bod bob amser yn gwneud amser i wneud pethau dros bobl eraill ac nid yw'n gadael i’w hanabledd ei goresgyn. I mi, Caitlen Moon yw'r person mwyaf ysbrydoledig rwyf wedi cyfarfod â hwy. Mae'n gwneud i mi sylweddoli y gallaf wneud unrhyw beth yr wyf yn dymuno. "
Yn freintiedig o gael ei dewis, dywedodd Caitlin:
"Meddyliais i fyth y byddwn yn rhan o'r Gemau Olympaidd 2012 yn Llundain. Fodd bynnag, ym mis Ionawr 2012, lansiais y rhaglen Arweinwyr Ifainc Llundain 2012 fel gwirfoddolwr V20 drwy gyfweld yr Arglwydd Coe a'r Fonesig Kelly Holmes, a bellach rwyf wedi cael fy newis i redeg gyda'r Ffagl Olympaidd. Rwy'n teimlo'n freintiedg iawn o fod wedi cael fy enwebu, heb sôn am gael fy newis, ac mae fy stori yn brawf y gall unrhyw un gymryd rhan".
Mae mwy o myfyrwyr a staff wedi cael yr anrhydedd o gludo'r ffagl Olympaidd, darllenwch amdanynt yma.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2012