Myfyrwyr yn creu cysylltiadau hollbwysig â chyflogwyr yn Ffair Yrfaoedd y Gyfraith
A chanran syfrdanol o 90% o’i graddedigion mewn gwaith chwe mis ar ôl graddio, a chydag ymrwymiad i wella rhagolygon gyrfaol ei myfyrwyr, mae’n hawdd gweld pam y mae Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor ar frig Ysgolion y Gyfraith yng Nghymru, yn ôl y tablau cynghrair diweddaraf o bapur y Guardian.
Un o’r ffyrdd y mae’r Ysgol yn anelu at wella cyflogadwyedd ei myfyrwyr yw ei Ffair Gyfraith flynyddol, lle caiff darpar-gyfreithwyr ifainc gyfle amhrisiadwy i gyfarfod a rhwydweithio â rhai o gyflogwyr mwyaf blaenllaw’r rhanbarth, yn cynnwys cyfreithwyr a bargyfreithwyr, yn ogystal â rhai o du allan i’r sector gyfreithiol.
Eleni, cynhelir y ffair ar 4 Tachwedd, ac mae’n addo bod y fwyaf a’r orau eto, gyda’r disgwyl y bydd rhyw 30 o gyflogwyr o Ogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr yn bresennol. Syr Roderick Evans, cyn-Farnwr Llywyddol Cymru, fydd yn agor y digwyddiad, a bydd yn llywyddu dros brawf ffug rhwng rhai o fyfyrwyr y Gyfraith ym Mangor.
A hithau bellach yn ei thrydedd flwyddyn, y Ffair hon yw’r ddiweddaraf o nifer o ymdrechion gan Ysgol y Gyfraith i wella cyflogadwyedd myfyrwyr. “Mentrau fel hyn sy’n gyfrifol am y ganran ryfeddol o’n graddedigion sy’n cael swyddi, ac am y canlyniadau eithriadol o ran boddhad myfyrwyr”, eglura’r Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith, Bangor. “Mae fy nghydweithwyr wedi gwneud y Ffair hon yn ddigwyddiad blynyddol o bwys, a chyflogwyr o amrywiaeth eang o yrfaoedd bellach yn ceisio cymryd rhan, am eu bod yn gwybod mae Ysgol y Gyfraith, Bangor yw’r lle gorau i ddod i chwilio am raddedigion o’r radd flaenaf.”
Bydd anogaeth i fyfyrwyr sy’n dod i’r Ffair greu eu cysylltiadau eu hunain â darpar-gyflogwyr, a hynny wrth gael profiad gwaith o bwys tyngedfennol – rhywbeth a hwylusir gan Ysgol y Gyfraith trwy ei chynllun lleoliadau poblogaidd, sydd wedi tyfu o flwyddyn o flwyddyn trwy ddatblygu cysylltiadau’n barhaus mewn cwmnïau cyfreithiol a’r tu allan i’r gyfraith, fel ei gilydd. “Ers nifer o flynyddoedd, buom yn llwyddiannus iawn o ran cael hyd i interniaethau a thymhorau prawf byr ar gyfer ein myfyrwyr,” eglura Dr Mark Hyland, aelod o Bwyllgor Cyflogadwyedd Ysgol y Gyfraith, Bangor.
Fel rhan o’i hymdrechion ehangach i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o gyfreithwyr, bydd Ysgol y Gyfraith Bangor hefyd yn cynnal Cynhadledd Gyfraith ar gyfer myfyrwyr Dosbarth 6 lleol, a hynny ddydd Mercher 18 Tachwedd. Bydd rhyw 130 o fyfyrwyr o ysgolion a cholegau Addysg Bellach Gogledd Cymru yn dod i’r diwrnod blasu hwn, fel y cânt gyfle i weld trwy eu llygaid eu hunain yr hyn y mae astudio ar gyfer gradd yn y gyfraith yn ei olygu’n wirioneddol.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2015