Myfyrwyr yn cyfrannu at fenter gymdeithasol leol
Yn ystod trydedd wythnos y gwyliau Pasg, cynhaliodd Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor (GMB), rhan o Undeb Myfyrwyr Profysgol Bangor, ei ddigwyddiad gwirfoddoli preswyl cyntaf ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Bangor. Daeth deunaw o fyfyrwyr Bangor a dau o Brifysgol Aberystwyth ynghyd i dreulio wythnos yn gweithio yng nghanolfan Felin Uchaf ger Aberdaron ar Benrhyn Llŷn.
Mae Felin Uchaf yn fenter gymdeithasol cefn gwlad sy'n archwilio ac yn hyrwyddo dulliau o fyw mewn partneriaeth greadigol a chytgord â'r amgylchedd. Ers 2004 mae'r elusen wedi bod yn gweithio ar weddnewid ffermdy traddodiadol Cymreig a'r tir o'i amgylch yn fenter i ymwelwyr a'r gymuned. Eu nod yw helpu creu a chefnogi busnesau a mentrau gwledig newydd sy'n gydnaws yn amgylcheddol ac yn gwneud defnydd cyfrifol o adnoddau naturiol yr ardal.
Cynorthwyodd gwirfoddolwyr o Wirfoddoli Myfyrwyr Bangor, sy'n ran o Undeb y Myfyrwyr, Prifysgol Bangor, gyda'r gwaith o godi adeilad newydd ffrâm goed a fydd yn gartref i lyfrgell, archifdy a chanolfan ymwelwyr newydd.
Dywedodd Daryl Hughes, myfyriwr pedwaredd flwyddyn Cadwraeth ac Ecosystemau Coedwigoedd "na allai GMB fod wedi dewis lleoliad mwy ysbrydoledig na Felin Uchaf ar gyfer ei gwrs preswyl cyntaf. Mae’r staff yn groesawgar, y tirlun yn brydferth a'r amrywiaeth o brojectau sydd ar waith yn drawiadol. Roedd yn fendigedig bod yn rhan o godi'r Ganolfan Ymwelwyr newydd sy'n cael ei adeiladu o bren derwen fythwyrdd gan ddefnyddio technegau traddodiadol. Roedd ysbryd y tîm yn rhagorol a chafodd pawb hwyl yn cyfrannu ac yn dysgu sgiliau newydd.”
Cyflawnodd y myfyrwyr hefyd amryw o dasgau rheoli tir fel coedlannu coed helyg a chodi waliau cerrig, plannu a choginio traddodiadol.
Cydweithio a roddodd fwyaf o bleser i lawer o'r gwirfoddolwyr. "Roedd yn bleser gweld myfyrwyr o wahanol gefndiroedd a diwylliannau yn dod at ei gilydd fel tîm i ymgymryd â'r gwaith yn Felin Uchaf. Roedd cael cefnogaeth gan grŵp mor fawr o gymorth enfawr i'r trefnwyr" meddai Siôn Rowlands, Swyddog Project GMB a threfnydd y digwyddiad preswyl.
Hoffai Gwirfoddoli Bangor ddiolch i staff a gwirfoddolwyr Felin Uchaf am eu croeso cynnes ac am eu cyfraniad i'r profiad gwirfoddoli preswyl hwn.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Ebrill 2013