Myfyrwyr yn cyfrannu dros dunnell o fwyd i'r banc bwyd lleol
Mae Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor (GMB) wedi ymroi i gasglu bwyd o neuaddau preswyl myfyrwyr ar draws Bangor a'i gyfrannu i Fanc Bwyd y Gadeirlan leol.
Trwy gydol mis Mai bu myfyrwyr ar draws y Brifysgol yn gweithio'n galed i wneud yn siŵr nad yw bwyd yn mynd yn wastraff ac mae Gwasanaethau Myfyrwyr wedi bod yn brysur yn cyfrannu'r adnoddau a’r gwaith i wneud yn siŵr bod y bwyd yn mynd at y bobl hynny sydd ei angen.
Meddai Helen Roberts, Cydlynydd y Banc Bwyd y Gadeirlan, ei bod: “yn ddiolchgar iawn i bawb a gymerodd ran ac sydd wedi mynd yr ail, y drydedd a'r bedwaredd filltir i wneud i hyn ddigwydd."
Ychwanegodd: "Mae wedi bod yn dasg enfawr, ac yn broject hynod o lwyddiannus, ac wedi'n galluogi ni yn y banc bwyd i allu bod yn hael i'r rheiny sy'n defnyddio ein gwasanaeth."
Mae'r Banc Bwyd lleol yn darparu pecynnau bwyd 3 diwrnod i deuluoedd mewn caledi. Mae'r Banc Bwyd yn dibynnu'n llwyr ar gyfraniadau ac wedi bod wrth eu bodd â'r haelioni a ddangoswyd gan fyfyrwyr dros y mis diwethaf.
Dywedodd Gaz Williams ar ran GMB:
"Mae project y Rhoi Mawr GMB wedi bod yn llwyddiant eithriadol yn sgil gwaith caled gwirfoddolwyr Prifysgol Bangor ac mae haelioni myfyrwyr y brifysgol wedi arwain at gasglu ychydig dros dunnell o fwyd sydd wedi cael ei gyfrannu at elusen leol wirioneddol gwerth chweil. Mae wedi bod yn anhygoel gweld bod cymaint o fwyd yn gallu cael ei ddargyfeirio o'r ffrwd wastraff a'i ail-fuddsoddi yn ôl yn y gymuned".
Casglwyd 1,040 Kg o fwyd o neuaddau preswyl myfyrwyr ac mae defnyddwyr lleol y gwasanaeth eisoes wedi cael budd o garedigrwydd myfyrwyr Bangor trwy dderbyn pecyn mwy hael nag arfer.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2016