Myfyrwyr yn cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth ffotograffiaeth Erasmus
Mae Hanjie Chow, myfyriwr ieithoedd modern yn ei flwyddyn olaf, yn un o ddeg cystadleuydd i gyrraedd rownd derfynol adran ffotograffiaeth 'Fy Stori Erasmus - Byw fel Brodor', cystadleuaeth a drefnir gan Raglen Dysgu Gydol Oes y Comisiwn Ewropeaidd. Mae ei bortffolio o luniau yn dangos golygfeydd syfrdanol a thraddodiadau lliwgar ynys Martinique, lle y treuliodd ei flwyddyn dramor. Mae portffolios pob un o'r deg i'w gweld yma.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2013