Myfyrwyr yn cystadlu am Wobr Flynyddol KESS 2013
Mae Prosiect Ysgoloriaeth Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS) a ariannwyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) wedi cynnal ei Noson Wobrwyo Flynyddol yn Techniquest ym Mae Caerdydd ar y 12fed o Fedi, gan wahodd myfyrwyr, academyddion a chwmnïau ledled Cymru i gymryd rhan mewn her cyflwyno ymchwil.
Mae’r prosiect KESS Cymru-gyfan yn rhoi cyfle i fyfyrwyr, academyddion a chwmnïau gydweithio ar brosiect ymchwil sydd wedi’i deilwra ar gyfer anghenion y cwmni.
Yn ystod y digwyddiad, arddangoswyd goreuon KESS mewn her lle’r oedd gofyn i bob cyfranogwyr gyflwyno amlinelliad o’u prosiect PhD/MRes o fewn 3 munud. Brwydrodd ysgolheigion KESS o Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru am wobr glodfawr KESS.
Ar ôl proses o bleidleisio trylwyr, cyhoeddwyd mai enillydd Gwobr KESS 2013 oedd Eleri Price gyda'i chyflwyniad am 'Fridio ŵyn ar gyfer safon uwch'. Mae prosiect KESS Eleri yn waith ar y cyd rhwng IBERS (Prifysgol Aberystwyth) a phartner y cwmni, Innovis. Pan enillodd y wobr, dywedodd Eleri, “Roeddwn i wir yn gegrwth ac yn teimlo’n ofnadwy o falch. Mae'n anrhydedd derbyn y wobr hon oherwydd safon uchel y cystadleuwyr eraill."
Trafodwyd amrediad eang o bynciau gan y rhai a oedd yn rhoi cyflwyniadau ar y noson:
- Alex Koutsantonis:
- ‘Marcio CE - Datblygu cynnyrch lintel dur carbon isel’, prosiect gan Brifysgol De Cymru mewn cydweithrediad â Catnic – Menter Dur Tata.
- Ilze Skujiņa: ‘Geneteg poblogaeth adar ysglyfaethus prin: y Barcud Coch’, prosiect gan Brifysgol Aberystwyth mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Barcudiaid Cymru ac Ecology Matters.
- Tracy Perkins: ‘Rôl gwaddodion aberol fel cronfa ar gyfer micro-organeddau pathogenaidd’, prosiect gan Brifysgol Bangor mewn cydweithrediad â Dŵr Cymru Cyf.
- Jennifer Marshall: ‘Datblygu adnoddau dysgu ar-lein ar gyfer dysgwyr y Gymraeg yn Nant Gwrtheyrn', prosiect gan Brifysgol Caerdydd mewn cydweithrediad â Nant Gwrtheyrn.
- Catherine Sharp:
- 'Effaith fideo a gwobrau ar y nifer o ffrwythau a llysiau y mae plant 3 i 4 oed yn eu bwyta', prosiect Prifysgol Bangor mewn cydweithrediad â Food Dudes.
- Danny Clegg: ‘Triniaeth nad yw’n fewnwthiol a meintoliad symptomau ar gyfer Clefyd Raynaud’, prosiect gan Brifysgol De Cymru mewn cydweithrediad â Tonus Elast.
- Tomas Awdry:
- ‘Cymhwyso seicoleg ysgogol i dechnoleg ffitrwydd’, prosiect gan Brifysgol Aberystwyth mewn cydweithrediad â Broadsword.
Gellir gweld yr holl gyflwyniadau a'r posteri ar wefan KESS.
Dywedodd Dr Penny Dowdney, Rheolwr Prosiect KESS ym Mhrifysgol Bangor, "Roedd safon y gwaith ymchwil KESS a gyflwynwyd eleni yn eithriadol, ac yn dangos yr angen am ymchwil cydweithredol sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant, ar lefel gradd Meistr Ymchwil a doethuriaeth, er mwyn gyrru’r economi wybodaeth yng Nghymru yn ei blaen a'i datblygu mewn dull gwirioneddol gyfannol.”
Menter sgiliau lefel uwch Cymru-gyfan yw Ysgoloriaeth Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS) a arweinir gan Brifysgol Bangor ar ran y sector Addysg Uwch (HE) yng Nghymru. Caiff ei ariannu yn rhannol gan raglen cydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.
Am fwy o wybodaeth ac enghreifftiau o brosiectau KESS, ewch i wefan KESS
Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2013