Myfyrwyr yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Triathlon Ewrop
Mae tri o'n myfyrwyr yn paratoi i gystadlu ym Mhencampwriaethau Triathlon Ewrop yn Nhwrci ym mis Mehefin.
Mae James Briscoe, Owen Mitchell a Ben Pritchard yn brysur yn paratoi ar gyfer Pencampwriaethau Triathlon ETU Ewrop yn Alanya, Twrci ar 14 Mehefin 2013.
Mae James, 19 oed o Crewe, sydd newydd gwblhau’r flwyddyn gyntaf yn ei gwrs Cemeg BSc, yn cystadlu yn erbyn ei gyd-fyfyrwyr Benjamin Pritchard, 21 oed, myfyriwr y gyfraith LLB yn y drydedd flwyddyn ac Owen Mitchell, myfyriwr yn Ysgol Busnes Bangor.
Bydd yn cystadlu yn y ras pellter olympaidd sy'n cynnwys nofio am 1500m, seiclo am 40km a rhedeg am 10km.
Meddai James, "Rwy’n gallu cystadlu ym Mhencampwriaethau Ewrop eleni gan fy mod wedi ennill cystadleuaeth fy nghrŵp oedran yn Israel y llynedd. Y peth mwyaf rwyf yn nerfus yn ei gylch yw'r ffaith y byddaf yn ôl eleni i geisio cadw fy safle fel enillydd medal aur Ewrop dan 20 oed.
"Rwyf yn edrych ymlaen at wisgo fy nillad cystadlu gydag enw fy nheulu a GBR oddi tano gan fod gallu cynrychioli fy nheulu a fy ngwlad yn un o'r pethau gorau am rasio rhyngwladol ac elit.
"Mae cadw cydbwysedd rhwng fy ymrwymiadau prifysgol a hyfforddi wedi bod yn dipyn o her gan y gallaf hyfforddi hyd at 20 awr yr wythnos ac weithiau mwy!
"Yn ffodus rwyf wedi cael cefnogaeth lawn y brifysgol ac wedi cael un o'r ysgoloriaethau chwaraeon sydd o gymorth mawr yn ariannol a hefyd gallaf ddefnyddio'r holl gyfleusterau ym Maes Glas am ddim. Mae'r Ysgol Cemeg yn gefnogol iawn hefyd.
“Yn bendant yr her fwyaf yn Nhwrci fydd y gwres gan nad oes llawer o gyfle i brofi gwres o 40 gradd wrth hyfforddi ym Mangor! Ond cefais y cyfle i wneud ychydig o hyfforddiant ym Mhortiwgal yn ystod y Pasg eleni felly mae hynny wedi helpu.”
Ar hyn o bryd mae Benjamin, synn y nwreiddiol o Abertawe, yn cyfuno'i astudiaethau blwyddyn olaf gyda rhaglen hyfforddi ddwys i baratoi ar gyfer y bencampwriaeth fydd yn dechrau ar 14 Mehefin.
"Yn ogystal â bod yn fyfyriwr israddedig llawn amser rwy'n hyfforddi am 15 i 18 awr yr wythnos", meddai.
"Efallai y byddai llawer yn ei gweld hi'n dasg anodd i wneud yr holl oriau ond rwy'n teimlo bod hyfforddi ac astudio yn mynd law yn llaw. Pan fydd fy nghorff yn teimlo'n iach, mae fy meddwl yn teimlo'n iach hefyd. Er enghraifft mae codi'n gynnar i hyfforddi yn fy neffro am weddill y diwrnod, sy'n golygu y gallaf ganolbwyntio ar adolygu neu fynd i'r darlithoedd. Mae hyfforddi eto yn y nos yn rhyddhau tensiwn ac yn clirio fy mhen ar ôl diwrnod o waith."
Bydd Benjamin yn cystadlu fel aelod o Dîm Pencampwriaeth Ewrop Grŵp Oed (20-25) Prydain a dywedodd fod lleoliad Bangor yn ei gwneud yn lle delfrydol i astudio a hyfforddi. "Rwy'n falch fy mod wedi dewis i astudio ym Mangor gan fy mod wedi cael cymaint o gyfleoedd i hyfforddi yn rhai o ardaloedd harddaf y wlad. Byddwn yn annog unrhyw un sy'n mwynhau seiclo, cerdded neu redeg i ddod i astudio ym Mhrifysgol Bangor."
Wrth sôn am gystadlu dywedodd James: "Mae Ben a minnau wedi sefydlu clwb triathlon Prifysgol Bangor erbyn hyn felly dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn triathlon ymuno â'r clwb gan ein bod yn darparu ar gyfer pob gallu.
"Os oes unrhyw un yn ystyried cystadlu mewn triathlon, fy nghyngor yw mwynhewch y ras gyntaf a gweld sut yr aiff pethau. Y tro cyntaf, croesi'r llinell derfyn yw'r peth pwysicaf, mae'r teimlad o lwyddo yn wych ac yn dueddol o'ch bachu!"
Ychwanegodd am Fangor, "Y lleoliad oedd un o'r rhesymau y dewisais astudio ym Mangor, rydym mor agos at Eryri sy'n berffaith ar gyfer hyfforddi.
"Mae'r Ysgol Cemeg wedi bod yn gefnogol iawn o'm chwaraeon a'r peth gorau am yr ysgol yw y gellir ei chymhwyso at bron unrhyw beth ac mae'r gwaith labordy yn cadw'r cwrs yn ddiddorol."
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2013