Myfyrwyr yn esbonio’u hymchwil i’r cyhoedd ar Uned Symudol Cymorth Canser Tenovus
Bydd myfyrwyr ymchwil o Brifysgol Bangor, sy’n cael eu noddi gan yr elusen ymchwil canser Tenovus, ar uned arddangos symudol yn archfarchnad Morrison, Bangor ddydd Llun 23 Ebrill, yn trafod eu gwaith ymchwil gydag aelodau o'r cyhoedd.
Bydd Tenovus, elusen canser blaenllaw yng Nghymru, yn arddangos eu gwasanaethau cymorth yn y gogledd, ynghyd â'r ymchwil arloesol y maent yn eu hariannu ym Mhrifysgol Bangor.
Mae myfyrwyr ôl-radd; Helena Robinson, Tien Yeo, Ffion Jones-Hutchings a Lucy Bryning yn cynnal ymchwil yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol a Seow Tien Yeo a Lucy Bryning yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso (CHEME).
Yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol, mae Dr Claudia Barros, Dr Torsten Bossing a'u myfyriwr PhD Helena Robinson yn datblygu prosiect a noddir yn llawn gan Tenovus DU ac sy'n addo rhoi dealltwriaeth arwyddocaol o’r newydd o'r mecanweithiau cellol a moleciwlaidd sy'n sail i’r newid mewn celloedd arferol i rai sy’n cychwyn tiwmor mewn celloedd yr ymennydd.
Eglurodd Helena Robinson eu bod yn "ymchwilio i eneteg datblygiad tiwmor yr ymennydd. Rydym eisiau gwybod pa gelloedd yn yr ymennydd sy’n 'mynd o chwith' a chychwyn y tiwmor, a beth yw'r newidiadau ym mynegiant y genyn sy'n achosi hyn."
Mae Ffion Jones-Hutching yn edrych ar enynnau sy'n achosi i gelloedd arferol droi’n ganseraidd gan arwain at diwmorau'r colon a'r rhefr. Nod yr ymchwil yw nodi targedau ar gyfer cyffuriau y gellir eu defnyddio i drin y clefyd hwn yn fwy effeithiol dros y tymor hir.
Mae Seow Tien Yeo yn gwerthfawrogi’r ysgoloriaeth PhD sy'n ei galluogi i archwilio ansawdd ac effeithiolrwydd ymchwil o werthusiadau economaidd ochr yn ochr â threialon ganser yn y DU. Bydd ei astudiaeth yn edrych ar sut mae gwahanol ddulliau o gasglu data economaidd yn effeithio ar y casgliadau y daethpwyd iddynt. Eleni, mae Lucy Bryning yn ymuno â Seow Tien. Bydd astudiaeth Lucy’n gwerthuso Therapi Gwybyddol ar Sail Ymwybyddiaeth Ofalgar gyfer canser (MBCT-Ca). Mae'r dull sy’n seiliedig ar grŵp wedi'i deilwra'n benodol yng Ngogledd Cymru i gefnogi pobl sy'n byw gyda chanser. Trwy gyfuno myfyrdod gofalgar a therapi gwybyddol ar gyfer iselder mae’r ymyriad yn anelu at helpu i ddatblygu sgiliau newydd a all helpu pobl ddelio â phryder, gofid ac iselder pan ac os byddant yn taro.
Dywedodd yr Athro Rhiannon Tudor Edwards (Cyd-Gyfarwyddwr CHEME) am y cyfle i'r myfyrwyr arddangos eu gwaith: "Mae Prifysgol Bangor yn gwerthfawrogi'r cymorth ar gyfer myfyrwyr PhD a ddarperir gan Tenovus Mae Tenovus yn darparu hyfforddiant defnyddiol ar gyfer myfyrwyr PhD ynghyd â’r cyfle iddynt gyflwyno’u gwaith ymchwil i academyddion, i gleifion ac i'r cyhoedd."
Bydd yr Uned Cymorth Canser Symudol ym Maes Parcio Morrison ym Mangor rhwng 10.00 a 16.00. Yn ogystal â gwybodaeth ar yr ystod o wasanaethau a ddarperir ganddynt, maent hefyd yn darparu gwiriadau iechyd am ddim i weld sut y gallai eich diet a dewisiadau ffordd o fyw cael dylanwad ar eich risg o gael canser.
Mae Tenovus yn gofyn i rai sy'n bwriadu ymweld, gysylltu â Mercedes Luis Fuentes neu Charlie Williams ar 029 2076 8850, neu drwy e-bost at mobilemondays@tenovus.org.uk gan roi amser bras o’r amser yr ydych yn bwriadu mynychu.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2012