Myfyrwyr yn gwirfoddoli ar brojectau Gwynedd Werdd
Mae prosiect amgylcheddol newydd a sefydlwyd gan Gwynedd Werdd, rhan o Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor, wedi profi’n boblogaidd iawn gyda myfyrwyr yn ystod y flwyddyn academaidd hon. Bwriad y prosiect yw hwyluso gwirfoddoli myfyrwyr ar brosiectau amgylcheddol lleol ac ers mis Medi 2010, mae grwpiau o fyfyrwyr wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau yn ymwneud ag Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn, Prosiect Balchder Bangor a Chymdeithas Eryri i enwi ond ychydig.
Mae Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor yn gweithredu 18 o brosiectau gwirfoddoli yn y gymuned gan gynnwys clybiau i blant, gwasanaethau ar gyfer henoed a phrosiectau amgylcheddol.
Dywedodd Helen Munro, Rheolwr Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor: “Yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf fe ddaeth yn amlwg fod myfyrwyr eisiau gwneud mwy dros yr amgylchedd lleol ond yn aml ddim yn gwybod digon am gyfleoedd lleol ac roedd trafnidiaeth hefyd yn broblem. Mae Gwynedd Werdd, a arweinir gan y myfyrwyr Alice Goward-Brown a Harry McCarthy, yn hwyluso gwirfoddoli cadwraeth drwy wneud pethau syml fel darparu trafnidiaeth minibys i leoliadau, hysbysu myfyrwyr am y cyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael a chynnig awyrgylch gyfeillgar i roi cynnig ar wirfoddoli.”
“Rydym yn ceisio trefnu o leiaf un cyfle gwirfoddoli bob mis a hyd yma rydym wedi cael llif o geisiadau gan fyfyrwyr sydd eisiau cymryd rhan. Rwy’n credu fod llawer o fyfyrwyr Bangor yn gwerthfawrogi’r ardal leol a’u bod nhw’n awyddus i gyfrannu at ei chadwraeth a gofal yn ystod eu cyfnod yn astudio yma ym Mangor” meddal Alice Goward-Brown, Arweinydd y Prosiect, a sefydlodd y prosiect gyda chymorth Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor.
Os ydych yn fyfyriwr a bod gennych ddiddordeb mewn ymuno â Gwynedd Werdd yn un o’r gweithgareddau neu os yr hoffech wybod mwy am y prosiect, anfonwch e-bost at greener.gwynedd@undeb.bangor.ac.uk neu cysylltwch â Helen Munro ar 01248 388021.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Ebrill 2011