Myfyrwyr yn gwirfoddoli i blannu cannoedd o goed yn Eryri
Mae myfyrwyr o Brifysgol Bangor wedi plannu cannoedd o goed fel rhan o broject bywyd gwyllt cyffrous gyda busnes twristiaeth yn Eryri.
Mae'r grŵp, o Gymdeithas Myfyrwyr Coedwigaeth Bangor (BFSA), yn gobeithio y bydd y coed newydd yn gwella tirwedd byd-enwog Dyffryn Ogwen, ger Bethesda.
Wedi'i drefnu gan Neil Martinson, o Hostel Mynydd Eryri, plannwyd dros 400 o rywogaethau o goed brodorol gan wirfoddolwyr Prifysgol Bangor.
Gan esbonio pwysigrwydd y gwaith, dywedodd Mr Martinson: "Fe gawsom y coed gan 'Coed Cadw' (Woodland Trust) gan eu bod yn 'rhywogaethau arloesol' arbennig sy'n annog coed eraill i dyfu.
"Mae yna lawer o fanteision i gael mwy o goed yn y dyffryn hwn felly, gyda chymorth Prifysgol Bangor, rydyn ni'n gobeithio ein bod ni wedi cychwyn y broses hon."
"Fe wnaethom blannu helyg deilgrwn, celyn, coed afalau surion, cyll a bedw, sydd i gyd yn rhywogaethau cynhenid a all wrthsefyll y gwynt a glaw didostur a gawn yn aml yma yn Eryri - ac y bu i'r myfyrwyr ymdopi'n wych gydag o wrth blannu'r coed!" ychwanegodd Mr Martinson.
Dywedodd Dr James Walmsley, cyfarwyddwr cwrs ar gyfer graddau coedwigaeth ym Mhrifysgol Bangor:
"Mae ein myfyrwyr yn dysgu am bopeth yn ymwneud â phlannu coed a choedwigoedd; felly mae'n wych eu bod nhw'n cael y cyfle i roi'r wybodaeth hon ar waith.
"Mae hefyd yn wych bod myfyrwyr coedwigaeth yn gallu gwirfoddoli a rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned leol a fydd o fudd i genedlaethau'r dyfodol."
Fe wnaeth Chris Andrews, sy'n fyfyriwr coedwigaeth ac yn is-lywydd BFSA, ganmol Hostel Mynydd Eryri a darlithwyr y brifysgol am helpu i drefnu'r digwyddiad.
"Rydyn ni mor ffodus i fod yn astudio mewn lleoliad mor wych lle byddwn yn mynd allan a bod yn rhan o brojectau ailgoedwigo fel hyn.
"Ac wrth gwrs, fe wnaethom werthfawrogi'r lasagne cartref yn yr hostel yn fawr iawn ar ôl diwrnod caled o blannu coed!" ychwanegodd Mr Andrews.
Am ragor o wybodaeth am goedwigaeth ewch i www.bangor.ac.uk/natural-sciences/subject-areas/forestry.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2018