Myfyrwyr yn gwirfoddoli i fenter gymdeithasol cefn gwlad
Yn ystod wythnos gyntaf gwyliau'r Pasg, cynhaliodd Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor ei ail ddigwyddiad gwirfoddoli preswyl ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Bangor. Treuliodd 21 o fyfyrwyr Bangor wythnos yn gweithio yng nghanolfan Felin Uchaf ger Aberdaron ar Benrhyn Llŷn.
Mae Felin Uchaf yn fenter gymdeithasol cefn gwlad sy'n archwilio ac yn hyrwyddo dulliau o fyw mewn partneriaeth greadigol a chytgord â'r amgylchedd. Ers 2004 mae'r elusen wedi bod wrthi'n gweddnewid ffermdy traddodiadol Cymreig a'r tir o'i amgylch yn fenter i ymwelwyr a'r gymuned. Eu nod yw helpu creu a chefnogi busnesau a mentrau gwledig newydd sy'n gydnaws yn amgylcheddol ac yn gwneud defnydd cyfrifol o adnoddau naturiol yr ardal.
Cynorthwyodd gwirfoddolwyr o Brifysgol Bangor gyda'r gwaith o ddatblygu adeilad newydd ffrâm goed a fydd yn gartref i ganolfan ymwelwyr newydd.
Siaradodd Johanna Illers, myfyriwr PhD o Ysgol Gwyddorau’r Eigion, a fu yno'r llynedd hefyd, am y profiad. "Roeddwn yn ddigon ffodus i fynd ar yr wythnos breswyl y llynedd hefyd pan wnaethom gynorthwyo gyda chodi'r ffrâm goed ar gyfer y ganolfan ymwelwyr newydd. Roedd dychwelyd eleni a helpu gyda'r gwaith o'i orffen yn brofiad anhygoel."
Cyflawnodd y myfyrwyr hefyd amrywiaeth o dasgau rheoli tir fel coedlannu coed helyg a chodi waliau cerrig, plannu a choginio traddodiadol.
Mynegodd Siôn Rowlands, y Swyddog Gwirfoddoli a drefnodd y rhaglen ar ran Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor ei werthfawrogiad o gael gweithio gyda thîm mor amrywiol o wirfoddolwyr. "Mae ein cyfle gwirfoddoli preswyl blynyddol yn apelio i fyfyrwyr o bob cefndir ac yn arbennig i'r rheiny a fydd yn aros ym Mangor dros gyfnod y gwyliau. Roedd yno fyfyrwyr o wahanol ysgolion academaidd, o wahanol wledydd ac ar wahanol gamau yn eu haddysg prifysgol a daeth pawb ynghyd i weithio tuag at achos teilwng iawn. Fedra i ddim disgwyl mynd yn ôl yno!"
Hoffai Gwirfoddoli Bangor ddiolch i staff a gwirfoddolwyr Felin Uchaf am eu croeso cynnes ac am eu cyfraniad i'r profiad gwirfoddoli preswyl hwn.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2014