Myfyrwyr yn rhoi disgyblion ar ben ffordd
Cafodd disgyblion Ysgol Uwchradd Caergybi ac Ysgol Friars, Bangor, brofiad unigryw yn ddiweddar gan i fyfyrwyr Bangor roi blas iddynt o fywyd prifysgol drwy gynnal sesiynau mentora.
Nod y cynllun, sydd yn cael ei redeg gan Brifysgol Bangor, yw annog disgyblion i ddod i wybod mwy am brifysgolion a'u hystyried fel posibilrwydd i’r dyfodol. Derbyniodd myfyrwyr a disgyblion Blwyddyn 7 dystysgrif mewn seremoni arbennig yn yr ysgol wedi iddynt gwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus.
Dywedodd Kim Davies, o adran Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr Prifysgol Bangor: “Rydym yn darparu grŵp o fyfyrwyr fel mentoriaid i gynnal sesiynau gyda’r disgyblion unwaith yr wythnos am gyfnod o 7-8 wythnos. Pwrpas y sesiynau yma yw cynyddu ymwybyddiaeth o addysg ôl 16 yn gyffredinol a phwysleisio ar Addysg Uwch. Y myfyrwyr sydd yn gyfrifol am greu’r sesiynau ac meant yn cynllunio’r sesiynau i ateb gofynion a diddordebau’r disgyblion. Gall hyn gynnwys gemau, taflenni gwaith hwyl, gwater cyfweliadau a thrafodaethau.”
Penderfynodd Eleanor Compton, myfyriwr Bioleg yn ei thrydedd flwyddyn, ymuno a’r rhaglen am ei bod â diddordeb mewn gyrfa fel athrawes. Dywedodd: “Mae’r cynllun hwn yn ffordd wych o gael profiad gwaith os ydych yn anelu am yrfa fel athro/athrawes. Mae’r holl brofiad wedi bod yn ffantastig ac rydw i wedi mwynhau pob munud.”
Mae Peter Salami yn ei drydedd flwyddyn ym Mangor yn astudio Gwyddorau Cymdeithaseg ac mae’n hapus iawn efo llwyddiant y cynllun, Ychwanegodd,
“Rydw I wedi mwynhau cael y cyfle i weithio gyda phobl ifanc ac i ddangos iddynt ba mor bwysig yw Addysg Uwch. Y darn gorau gen i oedd gweithio gyda’r disgyblion ac mi fyswn i yn awgrymu'r cynllun yma i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio gyda phlant.”
Dywedodd Hayley Stephenson, myfyrwraig blwyddyn gyntaf: “Mae’r cynllun hwn wedi dysgu lot i mi ac mae yn gyfle i fyfyrwyr ddeall sut brofiad yw gweithio gyda phlant ysgol. Mae gen i well dealltwriaeth o’r sgiliau sydd angen aranai ar gyfer gyrfa mewn dysgu rŵan. Mi fyswn yn annog pawb i gymryd rhan! Rydw I wedi ei awgrymu i fy ffrindiau yn barod.”
Yn ystod y seremoni, dywedodd Mr Martin Wise, Pennaeth Ysgol Uwchradd Caergybi: “Mae’r cynllun hwn yn annog ein disgyblion i anelu yn uwch. Mi fyswn yn hoffi ymestyn diolch i’r myfyrwyr am ei hamser a’i gwaith caled a hefyd I Brifysgol Bangor am redeg y cynllun.”
Bydd Prifysgol Bangor yn parhau i weithio’n agos gyda’r disgyblion wrth iddynt weithio eu ffordd drwy’r ysgol gyda phrojectau eraill o fewn Rhaglen Dawn a Chyfle Bangor (TOP).
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2012