Myfyrwyr yn Sefydlu Ymgyrch Ailgylchu Arloesol
Yr wythnos hon sefydlodd Undeb Myfyrwyr Bangor ymgyrch ailgylchu newydd, arloesol, yn targedu bras neu fronglymau!
Yn aml anghofir am ddillad fel adnoddau y gellir eu hailgylchu, hyd yn oed fwy felly yn achos dillad isaf, ac ni fydd llawer o siopau elusen yn eu derbyn i’w hailddefnyddio. Sylwodd Undeb y Myfyrwyr ar y gwagle hwn yn y farchnad ailgylchu a thrwy gydweithio ag Oxfam, maent wedi sefydlu ymgyrch ‘Bras Bangor i Affrica’ i gasglu bras hen neu rai sydd heb eu defnyddio, eu cadw o’r safle tirlenwi a rhoi cyfle newydd iddynt yn y byd sy’n datblygu.
Dywed Oxfam fod “Bras yn gymhleth i’w cynhyrchu felly ychydig iawn o wledydd sy’n datblygu sydd â’r cyfleusterau i gynhyrchu eu rhai eu hunain. Am y rheswm hwn, mae bras ail-law yn nwyddau gwerthfawr. Mewn gwirionedd, maen nhw’n cael eu hystyried fel yr eitem ddillad fwyaf dymunol. Mae bras o Brydain yn arbennig yn cael eu hystyried fel rhai o ansawdd uchel iawn ac mae galw mawr amdanynt.”So between the 2nd-9th Dec we’ll be holding a ‘Bra Bank’ week and collecting your old bras to donate to Oxfam who’ll get them out to where they are needed in the developing world.
Rhwng 2 a 9 Rhagfyr bydd blychau i gyfrannu bras dan ofal Undeb y Myfyrwyr yn Siop Academi, adeilad Undeb y Myfyrwyr, Campfa Maes Glas, Bar Uno, Siop y Ffriddoedd a Chaffi’r Bistro ar Safle’r Normal. Mae gan Undeb y Myfyrwyr gynlluniau’n barod ar gyfer cynnal mwy o wythnosau casglu ac ar gyfer prosiectau ailgylchu eraill i’r dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Rhagfyr 2011