Myfyrwyr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau Prifysgol Bangor yn hynod fodlon eu byd
Mae myfyrwyr yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a Chyfryngau Prifysgol Bangor unwaith eto ymysg y mwyaf bodlon eu byd yn y Deyrnas Unedig, gyda sgôr boddhad cyffredinol o 98%.
Daeth rhaglen newyddiaduraeth yr ysgol i'r brig yn y DU o ran boddhad myfyrwyr, allan o 51 o gyrsiau, gyda sgôr perffaith o 100%. Cafodd y cwrs Ysgrifennu Proffesiynol sgôr perffaith hefyd.
Gosodwyd Ysgrifennu Creadigol ac Astudiaethau'r Cyfryngau gan fyfyrwyr ymysg y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig.
Cafodd Ysgrifennu Creadigol ei osod yn y 5ed safle o blith 48 o gyrsiau, ac Astudiaethau'r Cyfryngau yn y 7fed safle o blith 86 o gyrsiau.
Daw'r canlyniadau o'r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, sef arolwg o oddeutu hanner miliwn o fyfyrwyr sy'n graddio o bob prifysgol yn y DU.
Mae'r canlyniadau blynyddol yn rhoi'r adborth mwyaf cynhwysfawr ar brofiad myfyrwyr ym mhob sefydliad.
“Mae'r canlyniadau ardderchog hyn yn golygu bod yr ysgol yn cwrdd ag anghenion personol a phroffesiynol ein myfyrwyr", meddai Eben Muse, Pennaeth yr Ysgol.
"Mae'r Ysgol yn arbennig o falch o weld bod myfyrwyr yn gwerthfawrogi'n fawr frwdfrydedd ac ymroddiad ein staff; hynny - y gymuned academaidd y gall grŵp ymroddedig o staff a myfyrwyr ei chreu - sydd wrth wraidd profiad llwyddiannus yn y brifysgol.
"Mae Newyddiaduraeth ac Ysgrifennu Proffesiynol, pynciau a dderbyniodd sgôr boddhad o 100%, yn enghreifftiau ardderchog o'r asiad rhwng ymarfer a theori y mae'r ysgol yn arbenigo ynddo."
Unwaith eto Prifysgol Bangor yw’r uchaf o blith prifysgolion Cymru yn y mesuriad diweddaraf o foddhad myfyrwyr, ac mae hi ymhlith y 10 uchaf o brifysgolion anarbenigol gorau’r DU.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Awst 2015