Myfyrwyr Ysgol Busnes Bangor mewn digwyddiad i arweinwyr busnes yn Llundain
Bu dau o fyfyrwyr Cyfrifeg a Chyllid a berfformiwyd orau, Raja Asad a Rebecca Molloy mewn cinio arbennig i Arweinwyr y Dyfodol, a gynhaliwyd gan CPA Awstralia yng ngwesty Sofitel London St James. Roedd y cinio yn llwyfan ar gyfer cysylltu arweinwyr busnes ac arweinwyr ifanc y dyfodol, ac fe ymunodd arweinwyr busnes rhyngwladol o Huawei Technologies, State Street, Bank ABC ac Adstream â nhw.
Aeth Dr Annika Beelitz, darlithydd Cyfrifeg yn Ysgol Busnes Bangor gyda'r myfyrwyr i'r digwyddiad.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2018