Myfyrwyr Ysgol Busnes Bangor yn ymweld â China
Yn Ebrill 2011, aeth 16 o fyfyrwyr Ysgol Busnes Bangor ar ymweliad cyntaf myfyrwyr o’r Ysgol â China. Fe’u harweiniwyd gan yr Athro John Goddard, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol; Sarah Wale, Rheolwr yr Ysgol; Yizheng Wang, Swyddog Cyswllt a Chefnogaeth Ryngwladol; a Peter Westmoreland, Cyswllt Myfyrwyr a Chynorthwywr Ymchwil. Gweinyddwyr Rhaglen ar gyfer nifer o bartneriaethau llwyddianus Prifysgol Bangor gyda prifysgolion Tsieineaidd
Yn ystod y daith 10 diwrnod cafodd y myfyrwyr, y mae llawer ohonynt yn cymryd modiwl Busnes ac Iaith Tsieineaidd yr Ysgol, gyfle i brofi bywyd bob dydd yn nhair o brif ddinasoedd China: Shanghai, Nanjing a Beijing. Dechreuodd yr ymweliad, a oedd yn gyfuniad o weithgareddau addysgol ac ymweld â mannau o ddiddordeb, yn Shanghai gyda sesiynau rhagarweiniol ar ddiwylliant a chymdeithas Tsieineaidd, ymweliad â Chanolfan Ariannol Shanghai, taith o amgylch Gerddi Yuyuan a’r Bund, taith nos ar gwch ar Afon Huangpu, ac ymweliad ag Amgueddfa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Shanghai. Yn Nanjing, ymwelodd y myfyrwyr â Chladdfa Sun Yat-sen a Mur y Ddinas, ac fe derbynwyd croeso cynnes gan bartner Tsieineaidd Bangor, Prifysgol Hohai, lle buont yn cymryd rhan mewn sesiynau addysgol, yn cynnwys caligraffeg Tsieineaidd a Tai Chi. Daeth y daith i ben gydag ymweliadau ag amryw o brif lefydd Beijing, yn cynnwys Sgwâr Tian’anmen, Y Ddinas Waharddedig, Y Palas Haf, Wal Fawr China a Stadiwm y Gemau Olympaidd.
“Bu’r daith yn gyfle gwych i’r myfyrwyr gael blas gwirioneddol ar ddiwylliant China a dyfnhau’r wybodaeth a gawsant drwy’r modiwl Busnes ac Iaith Tsieineaidd,” meddai John Goddard. “Erbyn hyn mae China’n bwysig iawn yn economi’r byd ac rwy’n sicr y bydd llawer o’n myfyrwyr yn teithio’n rheolaidd i China yn ystod eu gyrfaoedd mewn busnes a chyllid yn y dyfodol. Mae amryw o’r myfyrwyr fu ar y daith wedi holi ynghylch y posibilrwydd o gael cyfnod astudio estynedig yn China, naill ai fel rhan o’u hastudiaethau israddedig neu ar lefel ôl-radd.”
“Un o brofiadau mawr bywyd! Efallai nad yw rhywun yn meddwl gyntaf am China wrth ystyried lle i fynd ar daith, ac roedd gen i amheuon i ddechrau ynghylch mynd yno, ond roeddwn mor falch fy mod i wedi mynd yn y diwedd! Roedd gwneud cymaint o bethau mewn cyfnod mor fyr yn wych, ac fe wnaeth cymysgu â myfyrwyr eraill a staff a gwneud ffrindiau newydd y daith yn well fyth hyd yn oed. Roedd hon yn daith wirioneddol bwysig a diolch yn fawr Prifysgol Bangor.” - Luke Edwards, Myfyriwr Blwyddyn Gyntaf BA Astudiaethau Busnes a Marchnata
“Roedd y daith i China yn gyfle mewn oes ac fe wnes i fwynhau pob agwedd arni. Fe wnaeth Ysgol Busnes Bangor waith rhagorol yn trefnu popeth mor dda ac rydw i’n ddiolchgar iawn.” - Daniel Patman, Ail Flwyddyn BA Astudiaethau Busnes
“Hoffwn ddweud cymaint wnes i fwynhau fy hun ar y daith i China. Diolch i chi am ymweliad mor rhyfeddol.” - Robert Pritchard, Blwyddyn Gyntaf BA Marchnata
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mai 2011