Mynd ag Arbenigedd Busnes Bangor i Ddinas Llundain
Prifysgol Bangor yw’r unig sefydliad addysg uwch yng Nghymru i ‘allforio’ ei haddysg i Lundain . Mae’r Ysgol Busnes, sydd ar y brig o ran ansawdd yr ymchwil mewn Cyfrifeg a Chyllid ymhlith sefydliadau yn y DU, yn lansio lleoliad dysgu newydd yn y Ddinas.
Yn ogystal â darparu ystod eang o gyrsiau gradd ac ôl-radd ym Mangor, mae’r Ysgol Busnes wedi penderfynu mynd â rhai o’i ‘chynnyrch’ yn nes at y ‘farchnad’ gan gynnig tair gradd MBA arbenigol.
Meddai’r Athro Phil Molyneux, Pennaeth yr Ysgol Busnes: “Mae gennym un o’r Ysgolion mwyaf blaengar ym maes Bancio a Chyllid yn Ewrop ac mae ein hymchwil yn y maes yn swyddogol heb ei hail. Wrth agor Canolfan newydd yn Ninas Llundain, ein bwriad yw dod â’n harbenigedd yn uniongyrchol i un o ganolfannau ariannol pwysicaf y byd.”
Nod Canolfan Bangor yn Llundain fydd rhannu arbenigedd yr Ysgol mewn Cyfrifeg, Bancio a Chyllid drwy ddysgu tair gradd MBA arbenigol: Bancio a Chyllid, Bancio a Chyllid Islamaidd ac MBA Bancwr Siartredig unigryw – dyma’r unig gymhwyster yn y byd i gynnig cymhwyster MBA ynghyd â statws Bancwr Siartredig Sefydliad Bancwyr yr Alban. Bydd y tair rhaglen yn cael eu dysgu yn y Ganolfan yn Llundain gan staff presennol yr Ysgol.
Bydd yr Arglwydd Mervyn Davies, Cadeirydd Cyngor y Brifysgol a chyn Weinidog Masnach a Chadeirydd Standard Chartered Bank, yn lansio Canolfan Bangor yn Llundain ddydd Iau 25 Tachwedd.
Meddai: “Llundain yw un o ganolfannau cyllid mwyaf a phwysicaf y byd. Mae ond yn briodol fod gan Fangor, fel arweinydd yn ei maes, bresenoldeb yno.”
Ychwanegodd yr Athro Colyn Gardner, Prif Weithredwr Canolfan Rheolaeth y Brifysgol:
“Ysgol Busnes Prifysgol Bangor oedd y gyntaf i gynnig gradd Meistr mewn Bancio yn y 70au. Rydym wedi parhau i ddarparu rhaglenni o ansawdd uchel ac wedi meithrin cyn-fyfyrwyr galluog ym maes bancio a chyllid. Dyma ein cyfle i gyflwyno tair rhaglen neilltuol sydd yn hynod berthnasol i’r sialensiau sy’n wynebu bancio heddiw, ac o leoliad sydd yn wirioneddol ryngwladol.”
Caiff y Ganolfan newydd ei lansio yn ei chartref yn Broadgate Tower yn Ninas Llundain.
Bydd y garfan gyntaf i ddilyn yr MBA Bancio Siartredig yn dechrau fis Ionawr 2011, gyda’r MBA Bancio a Chyllid a’r MBA mewn Bancio Islamaidd yn derbyn eu myfyrwyr cyntaf fis Medi 2011.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Tachwedd 2010