Mynd ag arbenigedd ffilm Iddewig o Gymru i Efrog Newydd
Mae Nathan Abrams, arbenigwr mewn ffilm a diwylliant Iddewig ym Mhrifysgol Bangor yn cyfrannu at ddigwyddiad unigryw yn Efrog Newydd mis Mawrth. Bydd tair ffilm yn cael eu dangos fel rhan o Jewish Tales from Wales (Straeon Iddewig o Gymru) yn Efrog Newydd. Trefnir y digwyddiad gan Lywodraeth Cymru a’r Amgueddfa Treftadaeth Iddewig gyda chymorth gan Brifysgol Bangor.
Fel arbenigwr ar ffilmiau Iddewig yn gyffredinol, bydd Dr Nathan Abrams, o Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau yn y Brifysgol, yn arwain trafodaethau a sesiwn holi efo’r cyfarwyddwyr ar ddiwedd y sgrinio.
Dywedodd: "Mae'n anrhydedd cymryd rhan yn y digwyddiad unigryw, sy’n cyfuno dau o’m diddordebau: ffilm Iddewig Cymreig a hanes Iddewig. Dydw i ddim yn credu bod digwyddiad fel hwn wedi’i gynnal o'r blaen, naill ai yng Nghymru heb sôn am Efrog Newydd! "
Dywedodd yr Athro John Hughes, a fydd hefyd yn cynrychioli Prifysgol Bangor yn y digwyddiad pwysig hwn:
"Fel Prifysgol, rydym yn falch iawn o gefnogi'r fenter hon sy’n edrych ar ddiwylliant Iddewig Cymru a’i harddangos yn America. Mae’n gyfle gwych i arddangos yr amrywiaeth arbenigedd diwylliannol sydd gennym ym Mangor. Mae’r ffaith fod Dr Abrams yn dod â golwg newydd ar dreftadaeth Iddewig i Efrog Newydd, dinas sy’n adnabyddus am ei threftadaeth Iddewig, i’w gymeradwyo. Mae Dr Abrams hefyd yn arwain y ffordd yn astudio treftadaeth Iddewig Cymru. "
Cyhoeddiad diweddaraf Dr Abrams yw The New Jew in Film: Exploring Jewishness and Judaism in Contemporary Cinema.
Eglura Dr Abrams: "Mae cymeriadau ffilm Iddewig wedi bodoli bron cyn hired â’r cyfrwng, ond cawsant eu cyfyngu yn aml i wawdluniau neu barodïau. Ond bu cynnydd mewn ffilmiau am Iddewon o gwmpas y 90au. Dechreuodd cenhedlaeth newydd o wneuthurwyr ffilm, awduron ac actorion Iddewig yn Hollywood a gweddill y byd ddarlunio Iddewon mewn ffyrdd y tu hwnt i'r stereoteipiau arferol. Maent yn portreadu Iddewon anodd, Iddewon ynfyd, Iddewon hoyw a lesbiaidd, cowbois Iddewig, pyncs ac arwyr a hyd yn oed Iddewon yn y gofod. Rwyf wedi archwilio’r portreadau newydd a newidiol o Iddewon ac Iddewiaeth. Fy mryd i yw dangos sut mae portread o’r Iddew yn cael ei ddefnyddio i gyfleu hyder neu bryderon am hunaniaeth a hanes Iddewig."
Mae Nathan Abrams yn Uwch-ddarlithydd mewn Astudiaethau Ffilm ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n awdur, cydawdur, a golygydd nifer o lyfrau gan gynnwys: Norman Podhoretz and Commentary Magazine: The Rise and Fall of the Neo-Cons; a Caledonian Jews: A Study of Seven Small Communities in Scotland.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mawrth 2012