Mynd i'r afael â gwaddol plastig amaethyddol
Er bod defnyddio plastigau mewn amaethyddiaeth wedi gwella cynhyrchu bwyd a diogelwch bwyd mewn sawl gwlad, mae wedi gadael gwaddol o lygredd plastig ar dir amaethyddol.
Mae project ymchwil rhyngwladol newydd, sy'n gweithio gyda phum gwlad incwm isel a chanolig, a ariennir gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol yn y DU yn chwilio am ffyrdd i ddatrys y llygredd plastig a achosir gan ddefnyddio plastigau fel haenau tomwellt rhad sydd ar gael yn rhwydd, a defnyddiau eraill.
Bydd y project yn canolbwyntio ar ddau beth sef ymdrin â phroblemau cyfredol a sefydlu cynlluniau etifeddol i alluogi cenedlaethau'r dyfodol i ymgysylltu â'r broblem.
Bydd Gwobr Ymchwil ac Arloesi’r DU yn galluogi tri arbenigwr o Brifysgol Bangor, yr Athro Davey Jones, yr Athro Dave Chadwick a'r Athro Peter Golyshin o Ysgol Adnoddau Naturiol y Brifysgol i weithio gyda grwpiau ymchwil o Brifysgol Bryste a Phrifysgol Reading yn y DU, a gwyddonwyr pridd, ymchwilwyr economaidd-gymdeithasol, rhwydweithiau o ymgynghorwyr a ffermwyr, amaeth-ddiwydiannau a llywodraethau rhanbarthol yn Tsieina, yr Aifft, India, Sri Lanka a Fietnam. Mae'r pum gwlad a ddewiswyd ar wahanol bwyntiau o ran delio â'u problemau difrifol gyda phlastig amaethyddol.
Gyda'i gilydd, mae'r gwledydd hyn yn defnyddio 3 miliwn tunnell o ffilm blastig amaethyddol bob blwyddyn dros 25 miliwn hectar o dir amaethyddol. Maent hefyd yn cynnwys amrywiaeth eang o ran yr hinsawdd a nifer o wahanol strwythurau llywodraethu.
Yn ogystal â meintioli’r risgiau a achosir gan y plastigau sydd yn y pridd ar hyn o bryd, bydd y timau ym mhob lleoliad yn cyd-gynllunio atebion ymarferol, economaidd, cymdeithasol dderbyniol a hyfyw yn wleidyddol sy’n benodol i anghenion a phroblemau eu gwlad er mwyn lleihau'r gwaddol o blastig.
Bydd Davey Jones, Athro Gwyddor Pridd yn canolbwyntio ar ymchwilio i'r effeithiau y mae macro-, micro- a nano-blastigau confensiynol sy'n diraddio mewn priddoedd yn eu cael ar iechyd tymor hir ecosystemau amaethyddol.
Meddai:
“Mae'r plastigau hyn wedi dod â gwelliannau mawr. Mae defnyddio haenau o domwellt plastig yn benodol, wedi trawsnewid bywoliaeth miliynau o dyddynwyr ar draws y byd. Dylai defnyddio plastig at y dibenion hynny barhau, ochr yn ochr â datblygu amaethyddiaeth gynaliadwy yn barhaus.
Ond nid yw dyfodol plastig a'i waredu erioed wedi cael sylw priodol. Mae angen i ni wybod pa effaith y mae'r deunyddiau hyn a ddefnyddir yn helaeth yn ei chael ar yr amgylchedd ac ar iechyd pobl.”
Dywedodd Dave Chadwick, Athro Systemau Defnydd Tir Cynaliadwy:
“Mae llygredd plastig yn cael ei nodi gan Raglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig fel un o’r 10 problem amgylcheddol fwyaf drwy'r byd ac mae’n rhwystro cyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.
Mae'r rhan fwyaf o'r plastig sydd yn y cefnforoedd yn tarddu o'r plastig ar y tir a'r ddaear a gall fod yn fwy o broblem nag yr ydym yn ei sylweddoli.
Rydym eisiau gweithio mewn partneriaeth a chyd-gyflwyno atebion hyfyw i helpu i adfer tiroedd sydd wedi'u halogi â phlastig. Rydym hefyd eisiau sicrhau bod agwedd etifeddol i'r projectau fel bod offer, technoleg a phartneriaethau sy'n datblygu yn parhau y tu hwnt i ddiwedd y project, ac y gellir eu rhannu ag eraill."
Wrth gyhoeddi hyn a gwobrau ymchwil eraill, dywedodd yr Athro Syr Duncan Wingham, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol:
“Mae llygredd a achosir gan wastraff plastig yn un o heriau amgylcheddol mwyaf y byd, ac mae UKRI ar flaen y gad yn ariannu ymchwil i ddod o hyd i atebion. Mae'r grantiau hyn yn gyfanswm o £20 miliwn ac yn gam hanfodol wrth helpu ymchwilwyr sydd gyda'r gorau yn y byd i ddatblygu atebion realistig a dichonadwy i leihau llygredd plastig tra'n galluogi twf teg a chynaliadwy.
“Nod ein buddsoddiad mewn ymchwil datblygu rhyngwladol yw cael effaith gadarnhaol ar fywydau miliynau o bobl ledled y byd ac mae'n cefnogi ymdrechion byd-eang i gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.”
Yn ddiweddar, dyfarnwyd grant ymchwil mawr gan Gyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol y DU a Sefydliad Ymchwil Cenedlaethol (NRF Singapore) i Brifysgol Bangor i archwilio sut mae gwastraff plastig yn effeithio ar amgylchedd y môr o amgylch Ynysoedd y Philipinau.
Mae'r projectau newydd hyn yn cyfrannu at y portffolio ehangach o ymchwil sy'n gysylltiedig â phlastig ym Mhrifysgol Bangor, trwy Ganolfan Ymchwil Plastig Cymru (http://plastics.bangor.ac.uk/). Mae'n dwyn ynghyd grŵp amlddisgyblaethol o academyddion, ymchwilwyr, myfyrwyr a phartneriaid i ymchwilio i bob agwedd ar ddefnyddio plastig, llygredd plastig a dewisiadau amgen di-blastig.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Tachwedd 2020